d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Plas yn Rhiw -Llanbedrog

MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 28.3 km/17.6 milltir.
Amcan o’r amser: 6 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Plas yn Rhiw, SH237 283.

PETHAU I WELD AR Y DAITH

1 Plas yn Rhiw – Cyflwynwyd hen blasty Plas yn Rhiw i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan y chwiorydd Keating. Er mai perthyn i’r 17eg ganrif y mae’r adeilad presennol, fe’i codwyd ar safle hen lys oedd yn eiddo i frenin Gwynedd yn y 9fed ganrif. John Lewis oedd yn byw yn yr adeilad yn yr 17eg ganrif, yr oedd ei deulu yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif ac roedd y teulu wedi bod yn y Rhiw ers cyfnod y Tuduriaid. Daeth y tŷ i lawr trwy’r teulu i Jane Lewis, a briododd William Williams, perchennog Plas yn Rhiw, yn 1811. Priododd eu merch y Capten Lewis Moore Bennet, ac mae’n debyg mai’r briodas hon wnaeth ei arwain at addasu ac ehangu’r tŷ yn 1820.

Ychwanegwyd adain y gegin i’r gogledd yng nghanol y 19eg ganrif a pharhaodd yr ystâd yn nwylo’r teulu hyd 1874, pan brynwyd hi gan Thomas Roberts ac y gosodwyd y lle i gyfres o denantiaid. Yn eu plith roedd yr Arglwyddes Strickland ac efallai mai hi wnaeth osod yr ardd. Yn ddiweddarach aeth Plas yn Rhiw i fab Mr Roberts ac yna fe’i gadawyd yn y pen draw.

Yn 1939 prynodd y chwiorydd Keating Plas yn Rhiw. Tair chwaer ddibriod oedd Eileen, Lorna a Honora o Nottingham yn wreiddiol, ac yn 1939 daethant hwy â’u mam Constance, i fyw ym Mhlas yn Rhiw. Trwy eu hymdrechion brwd fe wnaethant adfer yr adeilad yn raddol, a oedd mewn cyflwr difrifol, ail-greu’r ardd, ac ymdrechu’n ddiflino i ddiogelu’r amgylchedd. Roedd y chwiorydd yn gefnogwyr taer i Gyngor Diogelu Cymru Wledig a sefydliadau cadwraeth. Fe wnaethant ymgyrchu’n llafar yn erbyn rhai cynigion; yn arbennig yn erbyn adeiladu gorsaf bŵer niwclear yn Edern.

Cromlech Tan-y-Muriau

(SH 238288) – Cromlech ag iddi gryn arbenigrwydd a chyfeiriad ati yng nghyfrol Frances Lynch ‘Gwynedd’ (Cadw) Codwyd y gromlech yn y 4edd neu’n gynnar yn y 3edd fileniwm Cyn Crist ac yn enghraifft o ddatblygiad ym mhensaerniaeth cromlechi’r cyfnod yna.. Mae ganddi benllech enfawr yn ei phen gorllewinol a cheir yna mewn gwirionedd ddwy gromlech. Credir y bu yna unwaith dair siambr.

Wedi’i lleoli ar lethrau dwyreiniol Mynydd Rhiw ym Mhen Llŷn, ymgorfforir dwy siambr gladdu yn y beddrod hudol hwn. Credir i’r beddrod gael ei adeiladu’n wreiddiol oddeutu 3500 CC yn steil cromlech borth oedd yn gyffredin i’r ardal ac fe’i orchuddiwyd yn wreiddiol â charnedd fawr ryw 35 metr (120 troedfedd) o hyd. Mae’r porth hwn, wedi’i gapio gan slaben enfawr, yn dal i oroesi heddiw. Cafodd y beddrod ei addasu rhywbryd yn oddeutu 3000 CC i ymgorffori siambr gladdu hir yn steil ardal Hafren-Cotswold.

Mae’r mwyafrif o’r math hwn o henebion i’w canfod yn yr ardal rhwng Rhydychen a Bryste, er bod dosbarthiadau hefyd yn bodoli yn Wiltshire a de Cymru. Y cwestiwn mawr i archaeolegwyr a haneswyr yw p’un a yw hyn yn cynrychioli dylifiad o bobl newydd i’r rhan hon o Wynedd yntau ai dim ond cyflwyniad o ddulliau newydd o adeiladu beddrodau ydyw? Mae’n awgrymu bod rhwydweithiau cyfathrebu eang wedi bodoli rhwng gwahanol gymunedau Prydain Neolithig.

Ar un adeg, roedd trydydd siambr gladdu yn bodoli ar ran isaf y garnedd, ond nid yw hon yn weladwy erbyn heddiw. Saif y beddrod ar dir tŷ Tan y Muriau, ryw 400 metr i’r dwyrain o eglwys Sant Aelrhiw.

Cromlech Tan y Muriau
Cromlech Tan y Muriau

Gwnaeth archaeolegwyr raglen ddyfal o waith yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf gan ganfod hen dai crynion a llawer o ôlbywyd cynnar yma.

2 Rhuol – Tro arall y gellir ei wneud yw dilyn y llwybr i’r chwith o ben uchaf y maes parcio hwn. Mae’r ffordd drol yn dirwyn i lawr y llethr at hen bentref morwrol Rhuol . yng nghesail gogledd-orllewinol Porth Neigwl. Tafarn oedd yr adeilad ger y lanfa pan oedd y porthladd bychan ar ei anterth ac mae hanesion am smyglo mawr yn cael eu cysylltu â’r hafan ddiarffordd hon.

Tafarn Tŷ’n Borth Rhuol

3  Llandygwnning – Cysylltir enw nawddsant yr eglwys, Gwynnin a Cynwyl (Penrhos) â thywysog Celtaidd o’r enw Coel Godebog. Cynlluniwyd yr eglwys hon ac eglwys newydd Aberdaron gan y pensaer, John Welch. Mae ei thŵr unigryw ar ffurf bocs pupur yn anghyffredin er yn debyg i dŵr eglwys Botwnnog. Ar ochr y tŵr ceir cloc haul. Yn ddiddorol iawn ‘roedd un Griffith Mathias yn flaenor yng nghapel Rhyd-bach tra ar yr un pryd yn glochydd Llandygwnning Mae adfeilion Plas Llandygwnning i’r dwyrain o’r eglwys. Dyma gartref teulu Wynne. Caewyd yr eglwys ers blynyddoedd, ond bellach cymerir gofal ohoni gan bwyllgor o drigolion lleol.

4 LlangianEglwys Llangian (SH 29555 28950)- Eglwys hynafol a thlws yw Eglwys Llangïan . Mae wedi ei lleoli ar lan afon, ar odre llethrau serth tua’r gogledd a’r dwyrain. Mae’r cofnod cyntaf ohoni yn dyddio o’r 13eg ganrif ond gallai fod yn hyn. Mae rhan helaeth o’r waliau gogleddol a deheuol, yn y pen gorllewinol, â’u drysau caeëdig, yn perthyn i’r cyfnod hwn. Mae’n bosibl bod y gwaith maen o arddull gwahanol yn y pen dwyreiniol yn dyddio o’r 15fed ganrif. Mae yno faen coffa o’r 5ed neu’r 6ed ganrif yn y fynwent, a thu mewn i’r eglwys gwelir nifer o feini coffa i filwyr a chlerigwyr teulu uchelwrol Edwards Plas Nanhoron. Cysylltiadau’r eglwys gyda theulu Nanhoron a chofeb arbennig i’r Capt Timothy Edwards a gollodd ei fywyd ar y môr yn 1780. Ei weddw, Catherine Edwards yn adbanyddus am iddi roi tir i godi’r Capel Newydd i’r Piwritaniaid cynnar.

Eglwys Llangian

Roedd y fynwent wreiddiol bron yn grwn, a’i therfyn yn dilyn y nant ar ei hochr dde-orllewinol. Mae olion y cylch i’w weld o hyd yn y clawdd isel ychydig fetrau i’r dwyrain o’r eglwys.

Maen Coffa (SH 29564 28941) – Maen coffa o’r 5ed neu’r 6ed ganrif yn y fynwent a’r arysgrif Lladin arno, MELI MEDICI FILI MARTINI IACIT -YMA Y GORWEDD MELITUS Y MEDDYG FAB MARTINUS. Ceir arysgrif Ladin ar y garreg i goffáu Melus y meddyg, fab Martinus (yma y gorwedd). Mae’r gair Cymraeg cyfoes ‘meddyg’ yn tarddu o’r gair Lladin ‘medicus’. Mae ffurf yr arysgrif yn nhraddodiad Cristnogaeth Rufeinig Orllewinol ddiweddar, ond mae dylanwadau eraill i’w gweld hefyd. Mae’r arysgrif yn darllen ar i lawr ar wyneb y garreg, yn hytrach nag ar draws – dull a fenthycwyd o arysgrifau ogam Iwerddon, ac mae’r dull o fynegi perthynas, Melus fab Martinus, yn nes at y meddylfryd Gorllewinol Prydeinig a Gwyddelig nag at yr enghreifftiau cyfandirol.

Maen Melitus
Maen Melitus

Mae rhoi gwybodaeth am swydd ar garreg goffa o’r cyfnod hwn yn anghyffredin iawn. Mae’n rhoi gwybodaeth am drefniant cymdeithasol y cyfnod a hon yw’r unig garreg yn ngwledydd Prydain y gwyddom amdani sy’n cyfeirio at ‘feddyg’. Mae’r garreg hon ym mynwent Eglwys Llangian ar ochr ddeheuol yr adeilad. Mae’r pentref tlws yma wedi ennill gwobr y pentref taclusaf yng Nghymru fwy nag unwaith yn ystod pum a chwe degau’r ganrif ddwaetha.

Ben-Y-Gaer – Mae llwybr amlwg yn mynd o Bont Newydd, rhwng Llangïan a Llanengan i fyny’r llechwedd i Ben-y-gaer . Hen fryngaer Geltaidd yw hon ac mae’n werth dringo ati er mwyn edmygu’r golygfeydd yn unig. Mae dwy fryngaer o’r Oes Haearn yn edrych dros wastadedd Neigwl o’r tir uwch uwchben troad afon Soch, y naill ger Llangian a’r llall ar esgair 60m uwchlaw’r seilnod ordnans i’r de o Lanengan. Mae’r ardal yng nghyffiniau’r ddwy fryngaer wedi dioddef o ganlyniad i gloddio’r graig gyfagos. Haearn oedd y mwyn ym Mhen y Gaer (Creigir Uchaf) ac ychydig o waith a wnaethpwyd yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif.

5 LlanenganEglwys Llanengan – Mae Eglwys Llanengan (SH 295570) yn un o eglwysi harddaf Cymru. Mae carreg goffa ynddi i Einion, brenin Llŷn a nawddsant y plwyf a sylfaenydd yr abaty ar Enlli. Traddodiad fod cysylltiad rhwng y sefydliad mynachaidd canoloesol a’r abaty yn Enlli, h.y. yma oedd y pererinion yn coffáu Engan (Einion), brenin Llŷn a roddodd Ynys Enlli i Cadfan i sefydlfu encilfa a abaty arni.

Einion brenin Llŷn sefydlodd Eglwys yn Llanengan. Roedd yn fangre bwysig ar Lwybr y Pererinion o’r dwyrain a’r de. Ym Mhrisiad Norwich (1254) mae cyfeiriad at ‘Lanekiant’ a sôn am ‘Llaneign’ yn 1291 – Llanengan mae’n debyg. Roedd Einion yn frenin dylanwadol iawn. Canodd Hywel Rheinallt gywydd mawl iddo yn y 15fedG. ac roedd delw wedi’i goreuro ohono’n gwisgo coron yn yr eglwys lle cafodd ei gladdu.

Mae’r eglwys yn eang a hardd. Rhan gorllewinol y mur gogleddol ydi’r rhan hynaf – o’r canoloesoedd, a gweddill muriau’r corff a’r ystlys wedi’u codi ar gyfnodau gwahanol yn y 16edG.

Mae’r adeilad presennol yn dyddio’n ol i’r bymthegfed ganrif ond yr oedd yma eglwys cyn hynny. Dywedir bod clychau’r eglwys hon a’r sgrîn dderw Ganol Oesol hynod o hardd wedi dod yno o abaty Enlli pan gafodd hwnnw ei ddifrodi. Buodd pererinion yn mynd yno o ddeutu 1460. Ychwanegwyd at yr Eglwys yn 1520 a Cafodd y tŵr castellog ei godi yn 1534

Eglwys Llanengan
Eglwys Llanengan

Cyff Engan – Yn yr eglwys mae Cyff Engan – cist o foncyff coeden i dderbyn offrwm gan bererinion a phlwyfolion. Mae tri chlo ar y gist ac allwedd i’r person a’r warden. Yn ymyl y fynwent, yng ngardd Tan y Fynwent mae Ffynnon Engan, ac mae gris o gerrig yn mynd i lawr at y dŵr a gâi ei ddefnyddio i fedyddio. Câi gwyrthiau eu cyflawni yma a byddent yn gadael offrwm yng Nghyff Engan.

Ffynnon Engan (SH 29312707)  Mae ffynnon sanctaidd o’r enw Ffynnon Engan wedi ei lleoli 100m i’r gogledd-orllewin o’r eglwys, yng ngardd Tan y Fynwent. O bosibl yn ffynnon ag iddi rinweddau iachau yn y Canol Oesoedd. Mae pentref Llanengan wedi ei leoli 2km i’r De Ddwyrain o Abersoch.

Ffynnon Engan

Ar Fynydd Cilan mae carreg ar ei gwastad â phant ynddi – Maen March Engan. Dyma ôl ô carn march y brenin Engan. Câi’r dŵr o’r carn (pant) ei ddefnyddio i wella afiechydon. Mae Ogo’ Engan yn yr ardal ac enwau megis Cae Engan, Tŷ Engan yn Llŷn ac ardal Brynengan yn Eifionydd sy’n codi’r cwestiwn oes cysylltiad rhyngddynt â brenin dylanwadol Llŷn.

Simnai Llanengan (SH 29486 26731)– Mae’r llwybr yn mynd heibio hen simnai gwaith mwyn ar gyrion y pentref – Simnai Llanengan . Tynfa wynt i waith plwm Tanrallt oedd hon ers talwm. Yr oedd gweithfeydd plwm plwyf Llanengan yn bwysig o gyfnodau cynnar. Roedd rhywfaint o gloddio i chwilio am fwynau o amgylch Pen y Dinas yn y 1830au ond ni fu llawer o gynnydd yno.

Yn ystod rhan olaf y ganrif ail-agorodd gweithfeydd plwm Penrhyn Du ym Marchros a sefydlwyd gweithfeydd newydd; rhai’n fawr a rhai’n fach iawn. Agorwyd gwaith Port Nigel (Porth Neigwl) yn Llanengan, ar y bryn lle safai’r hen gaer o’r Oes Haearn, yn Castell. Mae adfeilion rhai o adeiladau’r gweithfeydd plwm i’w gweld o hyd yn Nhan yr Allt. Adeiladwyd pwerdy a gosodwyd simnai uchel a thrawiadol ar ben y bryn ac i lawr i ganol y bryn. Mae’r simnai, a adnewyddwyd yn y 1990au, yn dirnod lleol. Crëwyd llawer iawn o swyddi, a buont yn dal i gael eu gweithio hyd ddiwedd y Cl9. Ym mhlwyfi Llanengan a Llangian, yng nghanol y 19eg ganrif, dim ond tri unigolyn oedd yn gweithio fel mwyngloddwyr plwm. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd 208 o weithwyr plwm ym mhlwyf Llanengan a 31 o fwyngloddwyr plwm yn Llangian.

Mewnfudodd nifer o Gernywiaid i’r gweithfeydd a hynny wedi gadael dylanwad ar rai cyfenwau dieithr yn yr ardal. Daeth gwragedd a phlant gyda’u gwyr. Roedd yn anorfod y byddai angen gwasanaethau newydd a thai newydd. Adeiladwyd rhesi o fythynnod gweithwyr. Yn Bay View Terrace, ar ochr ogleddol afon Soch, roedd naw o’r deg ty’n cael eu dal gan fwyngloddwyr. O’r holl deuluoedd mwyngloddio a oedd yn byw yn Bay View Terrace, dim ond un mwyngloddiwr oedd wedi cael ei eni’n lleol. Roedd y gweddill yn dod o Gernyw, Dinas Mawddwy, Minera, Dolgellau a Swydd Amwythig.

6 Neigwl / Porth Neigwl – Rhannwyd Llŷn yn dri chwmwd yn yr hen amser. Dinllaen oedd i’r gogledd, yn ymestyn o’r Eifl i Dudweiliog ac wedi derbyn ei enw o’r hen gaer arfordirol – Dinllaen. Rhwng yr afon Erch a Thrwyn Cilan ‘roedd Afloegion (Cafflogion) gyda Deneio fel ei bencadlys. Yna ‘roedd Cymydmaen, wedi derbyn ei enw o’r Maen Melyn yn Uwchmynydd. Prif ganolfan Cymydymaen oedd Neigwl; y fan roddodd ei enw i Borth Neigwl. Cysylltir yr enw hefyd â Nigel de Lohareyn, cyfaill i’r Tywysog Du. Yn 1355 cyflwynodd brenin Lloegr Bwllheli i’w gyfaill am ei wasanaeth a rhoi iddi statws bwrdeistref.

Porth Neigwl
Porth Neigwl

Porth Neigwl – Mae prif geryntoedd cefnfor Iwerydd yn taro traeth Porth Neigwl , sy’n wynebu’r de-orllewin. Aeth llawer o longau i drafferthion mewn stormydd wrth geisio lloches yma ond yna’n cael eu cloi rhwng dau bentir a’u hangorion yn methu eu dal yn y bae tywodlyd. Caent eu hyrddio o flaen y gwynt nes eu bod yn deilchion ar y traeth. Mae’r un tonnau mawr yn rhoi pleser yma heddiw, ond maent hefyd yn gyfrifol am erydu’r twynni tywod bob gaeaf.

Canfuwyd hen gafn bragu 3,500 o flynyddoedd oed yn allt y môr ger ffermdy Nant yn
2009 (gweler canolfan ymwelwyr Cwrw Llŷn; Cylchdaith Nefyn).

7 CilanMynydd Cilan – Yng nghornel dde-ddwyreiniol Porth Neigwl, cwyd yr allt at Fynydd Cilan . Hen dir comin yw hwnnw, sy’n cynnig tro crwn i’w gerdded uwch clogwyni’r môr. Yn nechrau’r 19eg ganrif, caewyd rhan helaeth o Drwyn Cilan drwy ddeddf seneddol. Gellir adnabod yr amgaeadau seneddol a’r hen dir comin o hyd drwy’r caeau mawr a’r terfynau unionlin.

Cromlech Trwyn Llech y Ddol (SH 30023 23534)- dystiolaeth weladwy o gymunedau dynol, fodd bynnag, yw dwy feddrod siambr o’r cyfnod Neolithig, tua 3000-4000 CC, yn Nhrwyn Llech y Ddôl a safle un arall yn Cim, Penrhyn Du. Mae yna hefyd olion Castell Einion, ffynnon Cilan a hen dai unnos y tir comin yn ychwanegu at apêl yr ardal.

Cromlech Trwyn Llech y Ddôl
Cromlech Trwyn Llech y Ddôl

Porth Ceiriad – Gaer Pared Mawr (SH 30361 24683)-

Porth Ceiriad 360°

8 Ynysoedd sant Tudwal – Mae dwy ynys – Ynysoedd Tudwal – i’w gweld yn glir ar y daith. Sant yn oes yr Eglwys Geltaidd oedd Tudwal, ac roedd ganddo ei gell ar yr ynysoedd. Mae goleudy ar yr ynys fwyaf orllewinol ac mae llwybrau Ynysoedd Tudwal yn angorfa ddiogel i longau ar dywydd stormus. Mae rhai olion sefydliadau mynachaidd wedi ei cofrestru a chafwyd rhai darnau o lestri Rhufeinig mewn cloddiad ddechrau’r ganrif ddiwethaf.

Ynysoedd Tudwal
Ynysoedd Tudwal
Cychod Hwylio Abersoch
Cychod Hwylio Abersoch

9 Penrhyn Ddu

10 Abersoch – Mae’r afon Soch yn tarddu ar lethrau Mynydd Cefnamwlch ac yn llifo trwy
Sarn Mellteyrn, Botwnnog ac ymlaen trwy Forfa Neigwl ac i’w haber yn Abersoch. Dywedire yr arferai unwaith lifo i’r môr yn Mhorth Neigwl. Credir fod ei henw, fel amryw o fannau yn Llŷn yn Wyddelig, y dair ‘socc’ am ‘hwch. Sylwer fod amryw o enwau afonydd yn dwyn enwau anifeiliaid sy’n tyrchu. Gwêl ‘Dictionary of the Place-names of Wales’ Owen a Morgan.

Mae Abersoch, pentref glan môr, saith milltir o Bwllheli, wedi datblygu yn un o ganolfannau hwylio pwysicaf Prydain yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Arbennig o boblogaidd yn ystod misoedd yr haf ac o ganlyniad yn ddrud o ran gwerth eiddo, lletyau, gwestai cyfleusterau ayb. Dewis o westai moethus, meysydd carafanau a gwersylla, siopau syrfio arbenigol a holl anghenion cychod a phlesera môr. Datblygiad masnachol ac uchel-ael arbennig yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. Yn un o Seisnigrwydd cyfoethog Eingl-Americanaidd yn ystod y tymor gwyliau ac enghraifft o’ r trawsnewid all ddigwydd pan fo’r diwydiant twristiaeth yn llwyddiannus.

Mae pentref Abersoch ar lan môr Ceredigion ar yr A499, a’r traethau -Porth Fawr, Porth Bach, Porth Caeriad yn draethau tywod diogel yn wynebu’r de. Mae aber yr Afon Soch yn harbwr naturiol gyda digon o ddwr i nofio cychod hwylio bychan ar ben llanw a digon o safleoedd diogel ar gyfer cychod mwy yng ngheg y bae.

Mae Pen Bennar yn torri rhwng ceg yr afon a’r harbwr a’r traeth yn y Borth Fawr, tua milltir o hyd.

Am y pentref ei hun, mae’r gymdeithas Gymreig gysefin yn adfywio yn ystod y gaeaf a nifer o weithgareddau diwylliannol – cyngherddau, ddramau, darlithoedd WEA ayb. yn cael eu cynnal.Bu’r Neuadd yn bwysig yn hanes datblygiad diwylliannol y pentref. Cyflwynwyd y Neuadd i’r pentref yn nechrau’r ganrif ddiwethaf trwy garedigrwydd Syr William a’r Fonesig Winterbottom er cof am eu mab Harold. Fe’i gweinyddir gan bwyllgor lleol gwirfoddol a chyfleusterau chwaraeon dan do -biliards, badminton, tennis bwrdd ayb ar gael.

Oedd yr Ysgol Gynradd mewn adeilad coed yn nesaf i’r Neuadd, ond wedi ei chau gan Gyngor Gwynedd yn 2022. Ysgol Sarn Bach ar y ffordd i Fwlchtocyn a Chilan, tua 3km o’r pentref yw’r ysgol gynradd o hyd – prawf arall mai diweddar yw’r twf a’r datblygiad yn Abersoch.

Pentref Llanengan a’r eglwys hynafol yw hen ganolfan y plwyf.

Castellmarch – Mae’r tŷ presennol yn dyddio’n ôl i 1629 pan gafodd ei adeiladu ar gyfer Syr William Jones, Prif Ustus Mainc y Brenin yn Iwerddon ac AS Sir Gaernarfon, tua diwedd ei oes. Roedd y safle, fodd bynnag, yn un hynafol ac fe’i crybwyllir yn chwedlau Trystan ac Esyllt o’r Mabinogi.

Castellmarch
Castellmarch MWY…

Yn ystod y Rhyfel Cartrefol roedd ei fab Griffith Jones yn cefnogi ochr y Senedd ac roedd Castellmarch yn fan bregethu gynnar i’r Piwritaniaid. Ym mis Mawrth 1649 herwgipiwyd Griffith Jones gan breifatwyr y Brenhinwyr a oedd yn gweithredu o Wexford, Iwerddon, a’i ddal fel gwystl am fywyd prif frenhinwr Sir Gaernarfon, y Cyrnol Syr John Owen, Clenennau. Ar ddiwedd y rhyfel newidiodd ochr ac arweiniodd helfa wrach yn erbyn ei gyn-gynghreirwyr seneddol. Hanes JONES, Syr, WILLIAM (1566-1640), barnwr

Chwedl y Brenin March – Ni wyddai unrhyw un am glustiau march y Brenin, heblaw am ei eilliwr, ac roedd hwnnw wedi tynnu llw i beidio â dweud wrth unrhyw un! Ar ôl peth amser, roedd y gyfrinach yn pwyso ar yr eilliwr, ac mi aeth i sibrwd ei gyfrinach i’r tir llaith ger afon. Fe dyfodd cyrs (reeds) yn y man hwnnw, ac ymhen amser daeth pibyddion y Brenin Maelgwn Gwynedd heibio ar eu ffordd i gastell y Brenin March.

Torrodd un o’r pibwyr gorsen i wneud pîb newydd Wrth chwarae’r noson honno yng nghlyw y Brenin March, y cyfan a glywid oedd ‘mae clustiau march gan farch y meirchion’. A dyna ddatgeli cyfrinach y Brenin i bawb! Felly byddwch yn ofalus beth ry’ chi’n sibrwd i’r ddaear!

11 Mynytho

Lleolir Mynytho tua 3km ir gorllewin o Lanbedrog ar hyd y B4413. Mae yna un o neuaddau Coffa mwyaf adnabyddus yng Nghymru. Cafodd ei hanfarwoli gan y gofeb ar un o’r muriau;

Adeiladwyd gan dlodi,-nid cerrig

Ond cariad yw’r meini;

Cydernes yw’r coed arni,

Cyd-ddyheu a’i cododd hi.

R.WilliamsParry.

12 Llanbedrog – Llanbedrog yw un o ganolfannau pwysicaf Llŷn, y wlad baradwysaidd honno y tu draw i fynyddoedd Eryri. Mae’n enwog am ei thraeth cysgodol yng nghesail y pentir uchel creigiog â’i wisg o rug a phinwydd ar ei ymyl.

Yn ogystal â chael ei gydnabod yn un o draethau mwyaf cysgodol gogledd Cymru, mae’n ddigon posibl fod y ffordd tuag ato wedi ei ddarllunio’n amlach nag unrhyw fan arall yn Llŷn oherwydd ei harddwch neilltuol. Prynwyd y traeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2000.

Bydd y traeth yn denu ymwelwyr yn eu miloedd bob blwyddyn, ond mae gan y plwyf ei hun lawer o gyfleusterau eraill i’w cynnig hefyd. Ymhlith y rhain y mae pysgota ar y môr ac ar yr afon, hwylio a merlota. Fe geir digonedd o ddewis i’r rhai hynny sy’n mwynhau cerdded, ond nid oes dwywaith mae’r olygfa fwyaf trawiadol yw honno a geir o ben Mynydd Tir y Cwmwd gerllaw’r pentref.

Ceir un o’r golygfeydd gorau o Fae Ceredigion o Tremfan Hall a fu unwaith yn gartref i John Gwenogfryn Evans, yr ysgolhaig enwog.

Dylid sôn hefyd am hinsawdd yr ardal. Mae penrhyn Llŷn yn debyg i ynys, a’r môr yn golchi ei lannau ar dair ochr, ac mae hefyd ar ymyl llif cynnes y Gwlff. Mae lleoliad cysgodol Llanbedrog yn rhoi iddi’r gorau o ddau fyd. Mae cefn gwlad Llŷn yn ardal sy’n llawn hanes a chysylltiadau â hen chwedlau, a’r Gymraeg yma’n brif iaith. Mae i Llŷn ei chymeriad arbennig ei hun a phrin y ceir unman yn ynysoedd Prydain â golygfeydd mor brydferth.

Llanbedrog
Llanbedrog

Eglwys St. Pedrog Llanbedrog (SH29562895) – Byddai’r pererinion ar eu taith o’r dwyrain a’r de i Ynys Enlli yn siwr o alw yn yr eglwys i weld Picell Pedrog cyn mynd ymlaen i gyfeiriad Llanengan. Ar eu ffordd byddai modd ymweld â Ffynnon Bedrog neu Ffynnon Fyw ym Mynytho. Dwy eglwys sefydlodd Pedrog yng Nghymru, un yn Llanbedrog a’r llall yn St Petrox, de Penfro. Un o’r creiriau arferai fod yn yr eglwys oedd ei waywffon. Ym Mhrisiad Norwich (1254) mae cyfeiriad at ‘Lanredauc’.

Eglwys St Pedrog Llanbedrog
Eglwys St Pedrog Llanbedrog

Mae corff yr eglwys wedi’i chodi yn y 13yddG. a’r gangell yn dyddio o’r 16edG. – yr un cyfnod â’r sgrin sy’n eu gwahanu. Cafodd hon ei chuddio ar y traeth yn ystod y Rhyfel Cartref pan ddefnyddiai Sieffre Parry a’i filwyr yr eglwys fel stabl i geffylau’r Seneddwyr. Mae darnau gwydr o’r ffenestri gafodd eu torri bryd hynny wedi eu casglu i ailgreu ffenestr liwgar yng ngorllewin yr eglwys.

Yn 1827 cafodd yr adeilad ei atgyweirio drwy ailgodi’r waliau, bu atgyweirio helaeth yn 1865 ac adeiladwyd y tŵr a’i ail-doi yn 1895. Mae’r dyddiadau hyn ar y talcen yn y tŵr. Bu cysylltiad clos rhwng Teulu Jones Parry, Madrun, (Glyn y Weddw’n ddiweddarach) â’r eglwys. Cyflwynon nhw roddion i’r eglwys a chaiff y cwpan cymun ei ddefnyddio heddiw. Mae cerrig beddau aelodau’r teulu yn y fynwent.

Ffynnon Pedrog – Roedd Ffynnon Bedrog (SH 3250032190) bellter o eglwys y plwyf. Gan fod yr ardal wedi gordyfu ac yn wlyb nid yw ei hunion leoliad yn hysbys. Roedd yn ffynnon feddyginiaethol bwysig wedi’i hadeiladu â cherrig ac yng nghanol y 19yddG. byddai’n denu cleifion yn dioddef o bob math o anhwylderau. Wrth ei chlirio cawsant lestr yn llawn o binnau – tystiolaeth y câi pinnau eu hoffrymu wrth gesio ennill gwellhad. Gallai’r ffynnon ddatrys lladrad. Rhaid fyddai tystio ffydd ynddi, penlinio, rhoi bara brown yn y dŵr a sibrwd enwau’r lladron. Pan gâi ei enwi byddai’r bara’n suddo.

Mynydd Tir-y-cwmwd – Rhostir arfordirol gyda’i lwyni eithin, grug a llus yw Mynydd Tir-y-cwmwd Mae wedi’i ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n ymestyn allan i’r môr fel pentir crwn, moel, trawiadol ac yn codi i 132m uwchlaw’r Seilnod Ordnans ger y glannau. Ym 1808 pasiwyd Deddf Amgaead ar gyfer Tir Comin Mynytho a Mynydd Tir-y-cwmwd. Caewyd 122 hectar o Fynydd Tir-y-cwmwd (302 acer). Mae olion hen gromlech yma a hefyd gweddillion tri gwaith ithfaen i lawr ar lan y môr. Bu’r rhain yn gweithio rhwng 1850-1949 yn cynhyrchu cerrig palmantu (sets) a cherrig mân (metlin), gan allforio ar lanfeydd pwrpasol.

'Silos chippings' Mynydd Tir y Cwmwd Llanbedrog
‘Silos metlin’ Mynydd Tir y Cwmwd Llanbedrog

Ychydig iawn o newidiadau sydd wedi digwydd ar Fynydd Tir-y-cwmwd ers i’r chwareli gau ym 1949, ar wahân i ddatblygiad anorfod maes carafanau a chabanau gwyliau ar ochr ddeheuol gwddf y pentir, a mwy o garafanau tua’r gogledd. Mae’n ithfaen felynach na gweddill chwareli’r ardal ac mae enghreifftiau ohoni i’w gweld ar rai o strydoedd hynaf Pwllheli (Stryd Penlan).

Plas Glyn y Weddw – Plasty hardd, gothig a gosgeiddig yw Plas Glyn y Weddw a dyma’r oriel gelf hynaf yng Nghymru. Cafodd ei adeiladu yn 1857 i gartrefu casgliad celf gweddw stad Madryn. Mae bellach yn adeilad cadwraeth Gradd II* gyda’i risiau Iacobeaidd a’i drawstiau coed a’i ffenest liw ysblennydd. Fe’i prynwyd gan y dyn busnes Solomon Andrews yn 1896 a’i ddatblygu fel oriel gyhoeddus, gan adeiladu tramffordd rhyngddo â thref Pwllheli. Mae hen dram wedi’i adfer i’w weld yn y gerddi ac mae amffitheatr awyr agored erbyn hyn yng nghysgod y winllan. Ymddiriedolaeth sy’n rhedeg yr oriel ers 1996.

Cymerwch daith rithwir o’r Plas

Y Winllan – Datblygwyd y goedwig – a elwir yn ‘Winllan’ – ar lethr cysgodol uwch ben yr Oriel yn nyddiau Solomon Andrews. Aeth yn wyllt yn hanner olaf yr 20fed ganrif, gyda llwyni rhododendron a llawryf yn ymledu a thagu’r llwybrau. Adferwyd y Winllan yn 2008 ac ailagorwyd Llwybrau Madryn a Solomon drwy’r coed.

Y Dyn Haearn – Mae’r ‘Ddelw’ ar ben llwybr y Winllan a llwybr y traeth ac mae’n gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr a phobl leol. Penddelw llong osodwyd yno yn wreiddiol gan deulu Solomon Andrews. Llosgwyd honno gan fandaliaid ac yna comisiynwyd un haearn gan artist lleol yn y 1970au. Pydrodd honno gydag amser a chodwyd y Ddelw bresennol yn 2002.

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

Yn fuan wedi mynd trwy bentref bach y Rhiw ewch o amgylch godrau Mynydd Rhiw cyn cyrraedd siambr gladdu o’r Oes Gerrig. O hyn ymlaen rydych mewn gwlad bur wahanol gan fod creigiau’r arfordir yn llawer meddalach yma. O ganlyniad daw traethau eang yr arfor-dir deheuol i’r amlwg lle mae’r môr wedi cael rhwydd hynt i naddu’r graig a’r clai a chreu tywod mân. Porth Neigwl yw’r cyntaf a’r mwyaf o’r rhain gyda’r golygfeydd ar ei hyd o’r gorllewin ymysg y rhai mwyaf cofiadwy o’r daith i gyd.
Cofiwch aros yn Llangian gan fod un arall o eglwysi hynafol yr ardal yma gyda philer o ithfaen wedi’i hysgythru mewn Lladin fel carreg fedd i feddyg yn y fynwent. Mae’r llwybr wedyn yn ymlwybro trwy Llanengan ac ymlaen at Borth Ceiriad ar benrhyn Mynydd Cilan. Mae’r ardal hon hefyd yn hafan i fywyd gwyllt heddiw gyda gwenyn, sboncyn y gwair, chwilod a phili-palaod amrywiol ymysg y creaduriaid bychain sy’n cartrefu yma ynghyd ag adar y môr sy’n nythu ar y clogwyni.
Wrth adael ardal Cilan daw ynysoedd St Tudwal i’r golwg, dyma arwydd eich bod yn agosáu at fwrlwm pentref Abersoch sydd yn boblogaidd gydag ymwelwyr.

Cylchdeithiau eraill ar y map yma

A-Rhiw , B- Llandegwning , C-Llanbedrog ,

Yn ôl i dudalen Llwybrau Llinynnol Llŷn