Disgrifiad
Ar ran gyntaf y daith, o Aberdaron ac ar hyd yr arfordir, byddwch yn dilyn Ffordd y Pererinion a redai o Glynnog Fawr i Ynys Enlli. Yn Eglwys Sant Hywyn mae dwy garreg fedd o’r G6 ac yn Y Gegin Fawr, sy’n gaffi poblogaidd, y gorffwysai’r pererinion cyn mentro ar draws y Swnt storm us. Mae hanes yn glynu yn dynn ym mhendraw Llŷn. Ewch heibio i gromlech, maen hir a ffatri arfau o Oes y Cerrig, a bydd modd galw yn yr eglwys dawel a hardd yn Llangwnnadl – cyrchfan arall i’r seintiau.
Ar hyd arfordir gogledd Llŷn mae nifer o draethau tywod; Porthor a’i dywod sy’n chwibannu, a Thraeth Penllech, yn ogystal a man borthladdoedd creigiog, cysgodol. Ar y gorwel mae Ynys Môn, ac ar hirnos glir o haf daw Mynyddoedd Wiclo i’r golwg, ond fod hynny’n arwydd fod y tywydd ar droi.
Mae’r daith gyfan yn eithaf gwastad arwahan i’r ddwy allt o bobtu Aberdaron, ac o Sarn Mellteyrn i lethrau Mynydd y Rhiw. Yno cewch olygfeydd rhyfeddol o Borth Neigwl a phatrwm caeau a ffermydd Llŷn, yr Eifl ac Eryri, a mynyddoedd Meirionnydd dros Fae Ceredigion. Wrth deithio i lawr o Rhiw tuag at Aberdaron ceir golygfeydd yr un mor ysblennydd o Ynysoedd Gwylanod ym Mae Aberdaron, Ynys Enlli a phen draw Llŷn.
Cyfarwyddiadau
• Mae’r daith yn dechrau ger toiledau cyhoeddus yn Aberdaron. Troi i’r chwith wrth gyrraedd y ffordd, croesi’r bont yna troi i’r chwith ac i fyny’r allt. Cymeryd y troad cyntaf i’r dde a theithio yn syth ymlaen ar draws y groesffordd nesa.
• Aros ar y ffordd nes cyrraedd Methlem yna troi i’r chwith. Ar y pedwerydd troad, troi i’r dde a throi i’r chwith ar y gyffordd nesa tuag at Llangwnnadl. Troi i’r chwith ar y gyffordd cyn cyrraedd Llangwnnadl, teithio’n syth ymlaen ar draws y gyffordd nesa a pharhau ar y ffordd nes cyrraedd ffordd B4417.
• Troi i’r dde, a throi i’r chwith ar y gyffordd nesa tuag at Sarn Mellteyrn, i’r chwith ar y gyffordd nesa ac i lawr yr allt yn ofalus. Pan fydd y ffordd yn gwyro i’r chwith mae angen troi i’r dde gyda gofal arbennig. Dilyn y ffordd i fyny allt serth ar draws un groesffordd a throi i’r dde ar y gyffordd nesa.
• Ymlaen ar hyd Mynydd Rhiw gan gymeryd gofal arbennig wrth fynd lawr yr allt. Troi i’r dde ac yna troi i’r chwith a dilyn y ffordd nes cyrraedd Blawdty. Troi i’r dde a dilyn y ffordd yn 61 i Aberdaron gan droi i’r chwith i’r man cychwyn.