Disgrifiad
Mae Nefyn yn dref arbennig a dderbyniodd ei siarter gan y Tywysog Du ym 1355. Mae iddi hanes llawn rhamant. Bu yn enwog am ei phenwaig a gwelir y tri phennog ar arfbais y dref. Ceir Amgueddfa Forwrol yn yr hen eglwys.
Wrth ddringo’r allt i fyny at Fynydd Nefyn edrychwch yn ôl ar yr olygfa ysblennydd o Faeau Nefyn a Phorthdinllaen. Bu’r ddau fae yn enwog am adeiladu llongau ac yn borthladdoedd llongau hwyliau prysur. Tri chopa’r Eifl sydd i’w gweld ar y chwith. Bydd Garn Boduan yn eich dilyn ar yr ochr dde and bydd yr olyfga o Eryri a gwlad Llŷn yn newid gydol yr amser.
Dilynwch lonydd culion tawel Llŷn ac yn y man dewch i Lannor. Yno mae Eglwys y Grog Sanctaidd gyda’i charreg fedd o’r 6ed canrif. Yma yr erlidiwyd Howell Harris, y Diwygiwr ym 1741 wrth iddo bregethu yn y fynwent.
Wedi dringo’n raddol o Rydyclafdy bydd y daith yn parhau yn gymharol wastad ond yn fwy coediog. Yng nghanol tawelwch Llŷn cewch gyfle i ymweld ag Eglwys Llandudwen. Yn fuan daw arfordir gogleddol Llŷn ac Ynys Môn i’r golwg, cewch gip ar Drwyn Porthdinllaen, a bydd Nefyn yn eich gwahodd yn ôl i fwynhau’r hen dref.
Cyfarwyddiadau
• Mae’r daith yn cychwyn o gylchfan y Groes yn Nefyn. Cymeryd y ffordd i’r de ddwyrain tuag at Mynydd Nefyn, gwyro i’r chwith ac ymlaen tuag at y mynydd, gan ddringo’r allt serth.
• Teithio ymlaen heibio Llwyn ac yn fuan wedi mynd heibio Castell Bach troi i’r dde. Troi i’r dde ar gyffordd y B4354 a throi’n syth i’r chwith. Troi i’r chwith ar y gyffordd nesa a dilyn y ffordd ymlaen cyn troi i’r dde ger Mela.
• Gwyro i’r dde ar y gyffordd nesa tuag at Llannor, troi i’r chwith ger yr eglwys yn Llannor ac ymlaen tuag at Gorffwysfa. Troi i’r dde tuag at Efailnewydd ac wedi cyrraedd y pentref croesi’n syth ar draws yr A497 a theithio tuag at Rhydyclafdy.
• Teithio ymlaen drwy’r pentref ac ymhen tua milltir troi i’r dde tuag at Dinas. Wrth gyrraedd Dinas troi i’r dde ger y capel, teithio ymlaen a throi i’r dde ar y groesffordd nesa tuag at Nefyn. Teithio ar y ffordd yma nes cyrraedd cylchfan Bryncynan, croesi syth ar draws ac ymlaen i Nefyn a’r man cychwyn.