d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Taith Beic Garn Bentyrch

Disgrifiad

Dyma daith hamddenol gyda’r ffordd yn bur wastad trwy ganol Eifionydd, ‘y tawel gwmwd hwn’.
Un o nodweddion enwocaf yr ardal ydi’r Lôn Goed sy’n ymestyn i’r gogledd o Afonwen yng nghyffiniau Chwilog hyd at ardal Brynengan ar lethrau Mynydd Cennin. Plannwyd ei choed derw a ffawydd yn
nechrau’r G19 i wasanaethu ffermydd stad Talhenbont, a phery hyd heddiw yn daith gerdded ddifyr.

Ger fferm Betws Fawr byddwch yn croesi’r Lôn Goed am y tro cyntaf ac yn ymuno a Lôn Las Cymru (Taith 8) cyn i honno wahanu ac ymuno yn y man a Lôn Eifion. Mae Eifionydd yn gyfoethog yn ei thraddodiad llenyddol. Ym Metws Fawr y cartrefai Robert ap Gwilym Ddu yn G18. Dewi Wyn o Eifion ac yntau a goffeir yng Nghapel y Beirdd .

Wrth deithio tua’r gogledd bydd y ffordd yn codi ychydig ac mae’r wlad yn fwy agored. Yr Eifl, Gyrn Ddu a Gyrn Goch fydd ar eich chwith gyda Bae Ceredigion a mynyddoedd Meirionnydd yn ôl ac ar y dde. Aiff y tir yn fwy corsiog gyda plu’r gweunydd ac aeron criafol ddiwedd haf yn harddu’r olygfa.
Wedi gadael Llanarmon buan y dowch i’r briffordd a dychwelyd i Chwilog ar hyd yr hen ffordd dyrpeg oedd y arwain i Borthdinllaen.

Cyfarwyddiadau

  • Mae’r daith yn cychwyn yn y maes parcio ynghanol Chwilog. Troi i’r chwith wrth gyrraedd y ffordd a chymeryd y tro cyntaf i’r chwith tuag at Wernol. Aros ar y ffordd yma am tua 4 milltir ac yna troi i’r chwith cyn cyrraedd Pont y Felin.
  • Dilyn y ffordd a chymeryd yr ail dro i’r chwith ger y bwth ffôn. Cymeryd yr ail dro eto i’r chwith a’r tro cyntaf wedyn i’r dde. Aros ar y ffordd yma am tua dwy filltir a hanner, ymlaen heibio Pensarn a Cae’r-Ferch ac ymlaen i Bencaenewydd.
  • Troi i’r chwith ym Mhencaenewydd, croesi ar draws y gyffordd nesa, aros ar y ffordd drwy Lanarmon a throi i’r chwith ar gyffordd B4354 cyn dychwelyd i Chwilog a’r man cychwyn.

Yn ôl i dudalen Beicio