d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Botwnnog

Cylchdaith Botwnnog – Manylion y daith

Amcan o’r hyd: 15km/9.3 milltir.
Amcan o’r amser: 6 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Congl Meinciau, Botwnnog, SH262 312.

Disgrifiad

1 Eglwys Llandygwnning  – Cysylltir enw nawddsant yr eglwys, Gwynnin (yn ogystal â Chynwyl  Sant, Penrhos) ag arweinydd Brythonig o’r 4edd ganrif o’r Hen Ogledd o’r enw Coel Godebog. Cynlluniwyd yr eglwys hon ac eglwys newydd Aberdaron gan y pensaer, John Welch. Mae ei thŵr unigryw ar ffurf bocs pupur yn anghyffredin er yn debyg i dŵr eglwys Botwnnog ac mae pulpud dwbwl ynddi. Ar ochr y tŵr ceir cloc haul. Yn ddiddorol iawn, ‘roedd Griffith Mathias tra’n flaenor yng nghapel Rhyd-bach hefyd yn glochydd yn Llandygwnning Mae adfeilion Plas Llandygwnning i’r dwyrain o’r eglwys. Dyma gartref teulu Wynne. Caewyd yr eglwys ers blynyddoedd, ond bellach cymerir gofal ohoni gan bwyllgor o drigolion lleol.

Eglwys Llandygwnning
Eglwys Llandygwnning

2 Eglwys Llangian (SH 29555 28950) – (SH 29555 28950) – Eglwys hynafol a thlws yw Eglwys Llangïan . Mae wedi ei lleoli ar lan afon, o dan elltydd serth tua’r gogledd a’r dwyrain. Mae’r cofnod cyntaf ohoni yn dyddio o’r 13eg ganrif ond gallai fod yn hŷn. Mae rhan helaeth o’r waliau gogleddol a deheuol, yn y pen gorllewinol, â’u drysau caeëdig, yn perthyn i’r cyfnod hwn. Mae’n bosibl fod y gwaith maen o arddull gwahanol yn y pen dwyreiniol yn dyddio o’r 15fed ganrif. Mae yno faen coffa o’r 5ed neu’r 6ed ganrif yn y fynwent, a thu mewn i’r eglwys gwelir nifer o feini coffa i filwyr a chlerigwyr teulu uchelwrol Edwards Plas Nanhoron. Mae gan yr eglwys gysylltiadau â theulu Nanhoron a chofeb arbennig i’r Capt Timothy Edwards a gollodd ei fywyd ar y môr yn 1780. Ei weddw, Catherine Edwards roddodd dir i’r Annibynnwyr cynnar yn LLŷn godi Capel Newydd, Nanhoron.

Eglwys Llangian

Roedd y fynwent wreiddiol bron yn grwn, a’i therfyn yn dilyn y nant ar ei hochr dde-orllewinol. Mae olion y cylch i’w weld o hyd yn y clawdd isel ychydig fetrau i’r dwyrain o’r eglwys.

Maen Coffa (SH 29564 28941)-Maen coffa o’r 5ed neu’r 6ed ganrif yn y fynwent a’r arysgrif Lladin arno, MELI MEDICI FILI MARTINI IACIT -YMA Y GORWEDD MELITUS Y MEDDYG FAB MARTINUS. Ceir arysgrif Ladin ar y garreg i goffáu Melus y meddyg, fab Martinus (yma y gorwedd). Mae’r gair Cymraeg cyfoes ‘meddyg’ yn tarddu o’r gair Lladin ‘medicus’. Mae ffurf yr arysgrif yn nhraddodiad Cristnogaeth Rufeinig Orllewinol ddiweddar, ond mae dylanwadau eraill i’w gweld hefyd. Mae’r arysgrif yn darllen ar i lawr ar wyneb y garreg, yn hytrach nag ar draws; dull a fenthycwyd o arysgrifau ogam Iwerddon. Ac mae’r dull o fynegi perthynas, Melus fab Martinus, yn nes at y meddylfryd Gorllewinol Brythonig a Gwyddelig nag at yr enghreifftiau cyfandirol.

Maen Melitus
Maen Melitus

Mae rhoi gwybodaeth am swydd ar garreg goffa o’r cyfnod hwn yn anghyffredin iawn. Mae’n rhoi gwybodaeth am drefniant cymdeithasol y cyfnod a hon yw’r unig garreg yn ngwledydd Prydain y gwyddom amdani sy’n cyfeirio at ‘feddyg’. Mae’r garreg hon ym mynwent Eglwys Llangian ar ochr ddeheuol yr adeilad. Mae’r pentref tlws yma wedi ennill gwobr y pentref taclusaf yng Nghymru fwy nag unwaith yn ystod pum a chwe degau’r ganrif ddiwaethaf.

3 Ben-Y-Gaer – Mae llwybr amlwg yn mynd o Bont Newydd, rhwng Llangïan a Llanengan, i fyny’r allt i Ben-y-gaer. Hen fryngaer Geltaidd yw hon ac mae’n werth dringo ati dim ond i edmygu’r golygfeydd. Mae dwy fryngaer o’r Oes Haearn yn edrych dros wastadedd Neigwl o’r tir uwch uwchben troad afon Soch, y naill ger Llangian a’r llall ar esgair 60m uwchlaw’r seilnod ordnans i’r de o Lanengan. Mae’r ardal yng nghyffiniau’r ddwy fryngaer wedi dioddef o ganlyniad i gloddio’r graig gyfagos. Haearn oedd y mwyn ym Mhen y Gaer (Creigir Uchaf) er mai dim ond ychydig o waith a wnaethpwyd yno a hynny yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif.

4 Eglwys Llanengan – Mae Eglwys Llanengan (SH 295570) yn un o eglwysi harddaf Cymru. Mae carreg goffa ynddi i Einion, brenin Llŷn a nawddsant y plwyf a sylfaenydd yr abaty ar Enlli. Mae traddodiad fod cysylltiad rhwng y sefydliad mynachaidd canoloesol â’r abaty yn Enlli. Hynny ydy, yma roedd y pererinion yn coffáu Engan (Einion), brenin Llŷn a roddodd Ynys Enlli i Cadfan i sefydlfu encilfa ac abaty arni.

Einion brenin Llŷn sefydlodd Eglwys yn Llanengan. Roedd yn fangre bwysig ar Lwybr y Pererinion o’r dwyrain a’r de. Ym Mhrisiad Norwich (1254) mae cyfeiriad at ‘Lanekiant’ a sôn am ‘Llaneign’ yn 1291 (Llanengan mae’n debyg). Roedd Einion yn frenin dylanwadol iawn. Canodd Hywel Rheinallt gywydd mawl iddo yn y 15fed ganrif; ac roedd delw wedi’i goreuro ohono’n gwisgo coron yn yr eglwys lle cafodd ei gladdu.

CYWYDD EINION FRENIN – Hywel ab Dafydd ab Ieuan ab Rhys (1460)

Cywydd Einion Frenin
Cywydd Einion Frenin – Hywel ab Dafydd ab Ieuan ab Rhys (1460)

Mae’r eglwys yn eang a hardd. Rhan orllewinol y mur gogleddol ydi’r rhan hynaf (o’r canoloesoedd) a gweddill muriau’r corff a’r ystlys wedi’u codi ar gyfnodau gwahanol yn y 16eg ganrif.

Mae’r adeilad presennol yn dyddio’n ol i’r bymthegfed ganrif ond yr oedd yma eglwys cyn hynny. Dywedir fod clychau’r eglwys hon a’r sgrîn dderw Ganol Oesol hynod o hardd wedi dod yno o abaty Enlli pan gafodd hwnnw ei ddifrodi. Bu pererinion yn mynd yno oddeutu 1460. Ychwanegwyd at yr Eglwys yn 1520 a cafodd y tŵr castellog ei godi yn 1534.

Eglwys Llanengan
Eglwys Llanengan

Cyff Engan – Yn yr eglwys mae Cyff Engan – cist o foncyff coeden i dderbyn offrwm gan bererinion a phlwyfolion. Mae tri clo ar y gist ac allwedd i’r person a’r warden. Yn ymyl y fynwent, yng ngardd Tan y Fynwent mae Ffynnon Engan, ac mae gris o gerrig yn mynd i lawr at y dŵr a gâi ei ddefnyddio i fedyddio. Câi gwyrthiau eu cyflawni yma a byddent yn gadael offrwm yng Nghyff Engan.

Ffynnon Engan (SH 29312707) Mae ffynnon sanctaidd o’r enw Ffynnon Engan wedi ei lleoli 100m i’r gogledd-orllewin o’r eglwys, yng ngardd Tan y Fynwent. Mae’n debyg ei bod yn ffynnon ag iddi rinweddau iachau yn y Canol Oesoedd. Mae pentref Llanengan wedi ei leoli 2km i’r De Ddwyrain o Abersoch.

Ffynnon Engan

Ar Fynydd Cilan mae carreg ar ei gwastad â phant ynddi – Maen March Engan. Dyma ôl carn march y brenin Engan. Câi’r dŵr o ôl y carn (y pant) ei ddefnyddio i wella afiechydon. Mae Ogo’ Engan yn yr ardal ac enwau megis Cae Engan a Thŷ Engan yn Llŷn yn ogystal ag ardal Brynengan yn Eifionydd yn awgrymu fod cysylltiad, o bosibl, rhyngddynt â brenin dylanwadol Llŷn.

5 Simnai Llanengan (SH 29486 26731)- Mae’r llwybr yn mynd heibio hen simnai gwaith mwyn ar gyrion y pentref, Simnai Llanengan . Tynfa wynt i waith plwm Tanrallt oedd hon ers talwm. Yr oedd gweithfeydd plwm plwyf Llanengan yn bwysig o gyfnodau cynnar. Roedd rhywfaint o gloddio i chwilio am fwynau o amgylch Pen y Dinas yn yr 1830au ond ni fu llawer o gynnydd yno.

Yn ystod rhan olaf y ganrif ail-agorodd gweithfeydd plwm Penrhyn Du ym Marchros a sefydlwyd gweithfeydd newydd; rhai’n fawr a rhai’n fach iawn. Agorwyd gwaith Port Nigel (Porth Neigwl ar y bryn yn Llanengan, ar safle Castell yr hen fryngaer, o Oes yr Haearn, Mae adfeilion rhai o adeiladau’r gweithfeydd plwm i’w gweld o hyd yn Nhan yr Allt. Adeiladwyd pwerdy a gosodwyd simnai uchel a thrawiadol ar ben y bryn. Mae’r simnai, a adnewyddwyd yn y 1990au, yn dirnod lleol. Crëwyd llawer iawn o swyddi, a buont eu gweithio hyd ddiwedd y l9eg ganrif.. Ym mhlwyfi Llanengan a Llangian, yng nghanol y 19eg ganrif, dim ond tri unigolyn oedd yn gweithio fel mwyngloddwyr plwm. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd 208 o weithwyr plwm ym mhlwyf Llanengan a 31 o fwyngloddwyr plwm yn Llangian.

Mewnfudodd nifer o Gernywiaid i’r gweithfeydd ac mae  hynny wedi gadael dylanwad ar rai cyfenwau dieithr yn yr ardal. Daeth gwragedd a phlant gyda’u gwŷr. Roedd yn anorfod y byddai angen gwasanaethau newydd a thai newydd. Adeiladwyd rhesi o fythynnod gweithwyr. Yn Bay View Terrace, ar ochr ogleddol yr afon Soch, mwyngloddwyr oedd yn byw yn naw o’r deg tŷ. O’r holl deuluoedd mwyngloddio a oedd yn byw yn Bay View Terrace, dim ond un mwyngloddiwr oedd wedi cael ei eni’n lleol. Roedd y gweddill yn dod o Gernyw, Dinas Mawddwy, Minera, Dolgellau a Swydd Amwythig.

6 Porth Neigwl – Mae prif gerrynt cefnfor yr Iwerydd yn taro traeth Porth Neigwl, sy’n wynebu’r de-orllewin. Aeth llawer o longau i drafferthion mewn stormydd wrth geisio lloches yma trwy gael eu caethiwo rhwng dau bentir a’u hangorion yn methu eu dal yn y bae tywodlyd. Caent eu hyrddio o flaen y gwynt nes eu bod yn deilchion ar y traeth. Mae’r un tonnau mawr heddiw yn rhoi pleser i syrffiwyr ond maent hefyd yn gyfrifol am erydu’r twynni tywod bob gaeaf.

Canfuwyd hen gafn bragu 3,500 o flynyddoedd oed yn yr allt fôr ger ffermdy Nant yn 2009 (gweler canolfan ymwelwyr Cwrw Llŷn;  Cylchdaith Nefyn).

Yn yr ardal hon yr oedd maenol NEIGWL yn y Canol Oesoedd a llys tywysog cwmwd Cymydmaen. Rhannwyd Llŷn yn dri cwmwd yn yr hen amser. Dinllaen oedd i’r gogledd, yn ymestyn o’r Eifl i Dudweiliog ac wedi derbyn ei enw o’r hen gaer arfordirol – Dinllaen ger Porthdinllaen. Rhwng yr afon Erch a Thrwyn Cilan ‘roedd Afloegion (Cafflogion) gyda Deneio fel ei bencadlys. Yna ‘roedd Cymydmaen, wedi derbyn ei enw o’r Maen Melyn yn Uwchmynydd. Prif ganolfan Cymydymaen oedd Neigwl; y fan roddodd ei enw i Borth Neigwl. Cysylltir yr enw hefyd â Nigel de Lohareyn, cyfaill i’r Tywysog Du. Yn 1355 cyflwynodd brenin Lloegr Bwllheli i’w gyfaill am ei wasanaeth a rhoi i’r dref statws bwrdeistref.

Porth Neigwl
Porth Neigwl

7 Mynydd Cilan – Yng nghornel dde-ddwyreiniol Porth Neigwl, cyfyd yr allt at Fynydd Cilan . Hen dir comin yw hwn, sy’n cynnig tro crwn i’w gerdded uwch clogwyni’r môr. Yn nechrau’r 19eg ganrif, caewyd rhan helaeth o Drwyn Cilan drwy ddeddf seneddol. Gellir gweld canlyniad yr amgaeadau seneddol ar yr hen dir comin o hyd yn y caeau mawr a’r terfynau unionlin. Y dystiolaeth weladwy gynharaf o gymunedau dynol, fodd bynnag, yw dwy feddrod siambr o’r cyfnod Neolithig tua 3000-4000 C.C. yn Nhrwyn Llech y Ddôl a safle arall yn Cim, Penrhyn Du. Mae yna hefyd olion Castell Einion, ffynnon Cilan a hen dai unnos y tir comin yn ychwanegu at apêl yr ardal.

Cromlech Trwyn Llech y Ddôl
Cromlech Trwyn Llech y Ddôl (SH 30023 23534)

8 Garn Fadryn – Yng nghefn Botwnnog, byddwch yn sylwi ar gopa Garn Fadryn i’r gogledd-ddwyrain. Dyma’r prif fynydd yng nghanolbarth Llŷn, yn 371m (1217 tr.) o uchder a’r golygfeydd o’i gopa o Lŷn gyfan yn ysblennydd. Y term daearegol am fynydd fel hyn yw monadnock, sef mynydd yn sefyll fel ynys ar lwyfandir.Mae nifer o olion cytiau crynion o Oes yr Haearn ar ei lechweddau.

Garn Fadryn

Mae’r adeiladau crynion a elwir yn Gytiau Gwyddelod yn amlwg a cheir olion o’r muriau amddiffynnol. Mae yma olion hefyd o gastell o’r 12ed ganrif a godwyd gan Owain Gwynedd. Mae’r wal, lle mae wedi goroesi, yn fertigol, ac mae awgrym bod iddi drwch dwbl mewn rhai mannau. Wal o gerrig sychion ydy hi. Ar ôl croesi’r Traeth Mawr o Ardudwy i Eifionydd ac ymlaen i Lŷn ym 1188, gwelodd Gerallt Gymro gastell cerrig o’r enw Karnmadrun a oedd wedi ei adeiladu yn ddiweddar ac a oedd yn eiddo i feibion Owain Gwynedd. Mae’n bosibl mai’r cadarnle waliau cerrig sychion ar y copa oedd hwnnw. Mwy… Gweler Cylchdaith Garn Fadryn

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

  • O ganol pentref Botwnnog, ger yr hen Swyddfa Bost, croeswch y ffordd a dilyn llwybr drwy’r cae at ffordd wledig sy’n eich arwain tua’r chwith i gyfeiriad y groesffordd.
  • Oddi yno, cerdded ar lwybr drwy gaeau neu cyrraedd ffordd drol a throi i’r chwith am eglwys Llandygwnning. Ymlaen ar lôn wledig heibio Saithbont a Neigwl Ganol a throi i’r chwith i’r llwybr sy’n eich arwain i Langïan.
  • Dilyn ffordd wledig oddi yno i Lanengan, a llwybr drwy’r caeau wedyn cyn belled â fferm Nant ym mhen mwyaf deheuol Porth Neigwl. Oddi yno, mae tro braf ar dywod y bae at y fynedfa drwy’r twyni i’r maes parcio.
  • I’r dde ar y lôn darmac wledig i gyfeiriad Llanengan ac yna i’r chwith, gan ddilyn Llwybr yr Arfordir drwy dir gwastad, amaethyddol i ffordd ym mhen arall Porth Neigwl, rhwng ffermydd Saith Bont a Thŷ Mawr.
  • Yna, dilyn y llwybr sy’n dirwyn yn ôl drwy gaeau amaethyddol, heibio ffermydd Rhosneigwl a Neigwl Uchaf at lwybr rhan gyntaf y daith sy’n mynd â chi’n ôl i bentref Botwnnog.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn