Manylion y daith
Amcan o’r hyd: 10.4 km/6.5 milltir.
Amcan o’r amser: 3.5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Ochr ffordd pentref Edern, SH277 398.
Disgrifiad
1 Edern – Yn yr Hen Felin wrth afon Geirch yng ngwaelod y pentref y byddai J. Glyn Davies, awdur caneuon “Fflat Huw Puw ac eraill”, yn arfer treulio’i wyliau gyda’i deulu. Cafodd y cyfnodau hynny ddylanwad mawr ar y bardd a’r ‘sgwennwr caneuon.
11 Dinllaen – Enw hen gwmwd yn Llŷn yw Dinllaen. Mae porthladd a bae Porth Dinllaen yn un o lecynnau harddaf Cymru. Bu’n harbwr diogel i longau yn yr hen ddyddiau a chafodd ei ystyried fel lleoliad ar gyfer prif borthladd i Iwerddon yn nechrau’r 19eg ganrif, cyn codi pontydd Menai. Mae nifer o bysgotwyr yn gwneud bywoliaeth yn y borth o hyd. Credir fod yr enw Llŷn [Lleyn] yn tarddu o enw un o’r llwythau Celtaidd o gwmpas Leinster yn Iwerddon a sefydlodd ar lannau gogleddol Llŷn mewn aneddiadau megis Castell Odo, a chaerau pentiroedd arforol megis Porth Iago a Phorth Dinllaen. A dyna ni ystyr yr enw Porthdinllaen: Porth caer y dynion o Leinster: gyda din yn hen enw Brythoneg am amddiffynfa ( fel Caeredin yn yr Alban).
Caer Bentir Dinllaen (SH 275416) -Yn ystod y cyfnod cynhanes, amddiffynnid pentir Porth Dinllaen gan ddau glawdd pridd a oedd yn croesi yn y rhan gulaf bron o’r pentir, tua hanner ffordd ar ei hyd, ac mewn man lle’r oedd y tir yn gostwng ychydig cyn codi eto tuag at y rhan o’r culdir sy’n nes at y môr. Roedd yr amddiffynfa ar y pentir yn cynnwys cyfuniad o ragfuriau wedi eu codi gan ddyn ac amddiffynfeydd naturiol y môr a’i elltydd. Mae olion y mur amddiffynnol i’w weld yn glir ar ochor chwith y lôn sydd yn rhedeg i lawr i’r borth o wastatir y penrhyn.
Yn ystod wythnosau olaf Hydref a dechrau Tachwedd 2011 aethpwyd ati i gynnal prosiect archeolegol cymunedol yn Ninas Dinllaen, caer bentirol o Oes yr Haearn ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Bellach mae’r safle yn ffurfio rhan o glwb golff Nefyn a’r cyffiniau ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Mae’r pentir ble mae’r safle yn cael ei erydu ac ers rhai blynyddoedd mae hyn wedi dechrau difrodi’r archeoleg.
Mae dwy ffos a thri clawdd wedi eu lleoli ar y tamaid culaf o’r pentir sy’n amgáu ardal o bedair acer ar ddeg trwy gyfuniad o glogwyni serth a chreigiog. Y mae’r ardal hon wedi ei gorchuddio mewn mannau gan haenau trwchus o luwchfeydd rhewlifol, sef y deunydd a adawyd, ar ôl wrth i’r rhewlifau ddadmer. Archwiliwyd y ffosydd a’r cloddiau allanol trwy gloddio ond nid y clawdd mewnol; cafodd pedair ffos eu cloddio i gyd, un ar draws pob nodwedd. Cafwyd llith o wybodaeth am ddatblygiad cronolegol yr amddiffynfeydd. Mae nifer o gyfnodau adeiladu wedi cael eu nodi ac maent yn berthnasol i gyfnodau pan fu ail-dyllu ar y ffosydd neu atgyfnerthu’r waliau. Mwy…
12 Porth Dinllaen ai Gychod – Mae Porthdillaen yn un o’r porthladdoedd mwyaf cysgodol a diogel rhag unrhyw beth ar wahân i wynt y gogledd-ddwyrain. Masnachu arfordirol oedd y prif ddiwydiant ym Mhorthdinllaen am ganrifoedd. Roedd mordeithiau pell yn cludo penwaig a moch wedi eu halltu i Iwerddon, Caer a Lerpwl. Cyflwynwyd stêm yn yr 1830au a’r 40au ond llongau hwyliau a ddefnyddid fwyaf am y rhan helaethaf o weddill y ganrif. Roedd rhwng 700 a 900 o longau’n dod i’r bae bob blwyddyn yn ystod y cyfnod hwn.
Roedd llond dwrn o adeiladau wedi bod ar y glannau yng nghysgod y pentir ers o leiaf y 18fed ganrif, gan gynnwys y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu llongau lleol, a physgota, y tollty a’r cytiau cychod. Roedd tair tafarn ar y traeth yn y 19eg ganrif, sef Tŷ Coch, Tan yr Allt a’r White Hall yn dilyn cynlluniau Madocks. Ar ddechrau’r 19eg ganrif cyflwynwyd cynllun a chynnig i adeiladu ffordd newydd ar draws Llŷn, o Feirionnydd a’r Traeth Mawr i Borthdinllaen, gyda’r bwriad o sefydlu porthladd yno i gludo teithwyr dros Fôr Iwerddon i Ddulyn. Ond aflwyddiannus fu’r cais a Phorthladd Caergybi a enillodd y dydd.
2 Cwrs Golf – Mae’r cwrs golff ar benrhyn Porth Dinllaen . Cafodd Clwb Golff Nefyn a’r Cyffiniau ei sefydlu yn 1907 fel cwrs naw twll ac yna yn 1912 fe’i ehangwyd i gwrs 18 twll.
Comisiynwyd dau o ddylunwyr gorau’r byd Golff J. H Taylor a James Braid yn 1933 i ychwanegu naw twll arall ac i ailwampio’r cwrs a fodolai’n barod. Mae’r modd y gosodwyd y cwrs yn hynod o anarferol, erbyn heddiw, gan mai dim ond 26 twll sydd bellach yn cael eu chwarae. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddianwyd y cwrs fel tir amaethyddol. Collwyd y tŷ clwb gwreiddiol yn 1911. Mwy…
3 Bad Achub – Ym Mhorth Dinllaen y sefydlwyd y Bad Achub cyntaf yng Nghymru ac agorwyd adeilad newydd i gartrefu’r gwasanaeth yno. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd bron i fil o longau’n galw heibio’r bae yn flynyddol, amryw ohonynt yn cysgodi rhag stormydd Môr Iwerddon. Roedd hi’n anochel y byddai damweiniau a llongddrylliadau yn digwydd yn gyson yno a chodwyd cwt i gwch achub yno yn 1864. Ailadeiladwyd y cwt cwch a’r llithrfa ym 1888. Ym 1925 aethpwyd ati i ymestyn y llithrfa a’r tŷ cwch ar gyfer bad achub newydd efo injan. Mae’r llithrfa yn un o’r rhai hiraf sy’n cael ei defnyddio.
Mae’r gwasanaeth wedi achub 400 o fywydau ers hynny. Y cwch presennol, y ‘John D Spicer’, yw’r 12fed i wasanaethu yma. Costiodd £2.7 miliwn. Cwch ‘ Tamar Class’ sydd yn Mhorthdinllaen heddiw. Cafodd Tamar Porthdinllaen ei ariannu gan gymynrodd hael y diweddar Mr John Dominic Spicer o Swydd Rhydychen a fu farw ar y 7fed o Hydref 2010. Ar gais yr ysgutorion enwyd bad achub yn RNLB John D Spicer. Angorwyd y bad achub, dros dro, tra roedd y gwaith o godi cwt newydd, ar y safle ym Morfa Nefyn, yn mynd rhagddo.
Mae gan y Tamar y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn ychwanegu at ei gallu i achub bywydau. O’i gymharu â bad o’r dosbarth Tyne mae’r Tamar yn fwy- 16 metr yn hytrach nac 14- ac mae’r amser ymateb yn gynt gyda chyflymder o 25 yn hytrach na 17 not.
Costiodd y cwt newydd i’r bad achub £8.2 miliwn. Mwy…
Mae pentref Porth Dinllaen bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fuddsoddodd yn helaeth yn harddwch y llecyn rai blynyddoedd yn ôl trwy dynnu’r gwifrau trydan i lawr a’u lleoli o dan y ddaear.
4 Tŷ Coch – Atyniad poblogaidd ar y traeth yw tafarn y Tŷ Coch. Adeiladwyd y Tŷ Coch allan brics coch a defnyddiwyd fel balast i longau oedd yn hwylio o’r iseldiroedd yn 1823. Roedd y dafarn hon ymhlith y dair flaenaf pan bleidleiswyd am ‘Dafarn Draeth Orau’r Byd’ ym mhapur newydd y Guardian yn 2014. Yma yn y Tŷ Coch y bu Mrs Jones yn cadw ysgol forwrol tua 1880. Hi oedd yr unig wraig harbwr feistr yn Ynysoedd Prydain yn y 1920au, a bu fyw i fod yn 98 oed.
Am bum mlynedd gyntaf ei oes bu’n ficerdy ficer Edern. Ym 1828 codwyd ficerdy drws nesaf i’r eglwys ac yn y diwedd daeth Tŷ Coch i ben fel yr ail ficerdy wrth i’r ficer y Parch. John Parry Jones Parry symud allan yn gyfan gwbl gan adael ei wraig cadw tŷ, Catherine Ellis i agor yr adeilad fel Tafarn ym 1842 i’w gyflenwi. lluniaeth i’r gweithlu adeiladu llongau oedd yn gweithio ar y traeth.
Roedd Tŷ Coch yn cystadlu, yn sicr gyda’r Whitehall Inn ac yn ôl y sôn ar un adeg, cyfanswm o bedair tafarn arall ar y traeth rhwng bwlch Bridin a porthdinllaen.
5 Abergeirch – O gilfach Aber-geirch y rhedwyd cêbl teliffôn i Howth yn Iwerddon (64 milltir o bellter) yn 1913. Mae olion y cwt lle’r oedd y peiriannau i’w gweld yma o hyd.
6 Cors Geirch – Gorwedd Cors Geirch i’r de-ddwyrain o Edern. Mae’r afon Geirch yn llifo drwy gors sy’n gynefin pwysig i rywogaethau prin o flodau a llystyfiant. Mae’n Warchodfa Natur ond gellir cael mynediad iddi wrth droi am Geidio oddi ar ffordd A497 Pwllheli/Nefyn (SH308 382).
7 Whitehall Porthdinllaen – Ar ddechrau’r 19eg ganrif cyflwynwyd cynllun a chynnig i adeiladu ffordd newydd ar draws Llŷn o Feirionnydd a’r Traeth Mawr i Borthdinllaen, er mwyn sefydlu porthladd, fel cystadleuaeth i Gaergybi, neu fel dewis arall yn lle Caergybi, a chludo teithwyr dros Fôr Iwerddon i Ddulyn. Y bwriad oedd adeiladu porthladd newydd a phier. Y dyn y tu ôl i’r fenter oedd William Madocks, a gafodd Ddeddf Seneddol ym 1806 i ddechrau datblygu’r porthladd ym Mhorthdinllaen; ac yn 1807 i amgáu a draenio’r Traeth Mawr, adeiladu ffordd dros y morglawdd, neu’r cob, a chreu harbwr ym Mhorthmadog maes o law, wedi’i enwi ar ei ôl.
Roedd llond dwrn o adeiladau wedi bod ar y glannau yng nghysgod y pentir ers y 18fed ganrif o leiaf, gan gynnwys y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu llongau lleol, a physgota, y tollty a’r cytiau cychod. Roedd tair tafarn ar y draethlin yn y 19eg ganrif, sef Tŷ Coch, Tan yr Allt a’r White Hall yn dilyn cynlluniau Madocks.
8 Pen Cim a Warws Dora – Mae Warws Dora ym Mhen Cim, y pentir bychan sy’n gwahanu bae Morfa Nefyn a bae Porthdinllaen. Roedd hwn yn un o’r prif warysau i storio nwyddau oedd wedi eu mewnforio a’u dadlwytho. Daeth llongau arfordirol, sloops bach a sgwneri yma gyda phob math o nwyddau o Lerpwl ac ymhellach, i bentrefi a ffermydd Llŷn.
Daeth grawn a bwydydd, tecstilau a llestri i mewn i’w dosbarthu i’r degau o siopau bach a oedd yn britho’r penrhyn. O droad y ganrif hyd y rhyfel byd cyntaf, roedd agerlongau o’r Barmouth Steamship Co. yn galw yma, un oedd y ‘Telephone’ ac yna’n ddiweddarach y ‘Dora’.
9 Smyglwyr Tŷ Newydd – Roedd Porthdinllaen yng nghanol y busnes smyglo yn yr 17eg a’r 18fed ganrif. Un o smyglwr enwocaf dechrau’r 19eg ganrif oedd Boaz Pritchard o Gaernarfon a’i ddiod feddwol ‘Brandi Boaz’. Ar un adeg, meddiannodd yr awdurdodau’r brandi a’i storio yn atig Tŷ Newydd, y tollty, ar draeth Bwlch Bridin, Morfa Nefyn.
Nid oedd hwn yn achos ar ei ben ei hun o smyglo, yn wir roedd yna fôr-ladron a ‘privateers’ yn gweithredu ar hyd yr arfordir. Dyma rai enghreifftiau o smyglo yr adroddwyd amdanynt ym mhorth Dinllaen – 1763 – Smyglwyd rym i Borthdinllaen oddi ar “cutter”. (Cwch bach un Hwylbren), 1785 – Aeth llong smyglo ar y creigiau ym Mhorthdinllaen a chafodd ei dal gan swyddogion y tollau. 1786 – Daliwyd cwch ym Mhorthdinllaen ar ôl iddo fod mewn cysylltiad â lugger smyglo. Hwyliwyd cwch arall o Borthdinllaen i angorfa ddiogel oddi ar Enlli. 1791 – Gwelwyd llong smyglo ynghyd â ‘privateer’ Ffrengig oddi ar Borthdinllaen. 1791 – Dwynwyd llong y dynion tollau o Borthdinllaen gan long smyglo. a.y.y.b. Mwy….Llinell amser morwrol Llŷn
10 Gwaith Brics – Ym 1868, sefydlwyd gwaith brics enwog ym Morfa Nefyn gan y Capten David Hughes, Siop Groesffordd a John Roberts, Cefn Edern. Roedd ganddo simnai uchel a glanfa ar y traeth. Daeth y gwaith cynhyrchu i ben ym 1906 ac erbyn hyn mae’r safle’n faes parcio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thai.
Cyfarwyddiadau
- Ar ôl cerdded i lawr stryd Edern (i lawr at y bont, i gyfeiriad Morfa Nefyn), mae’r daith yn mynd â chi ar hyd llwybr ar draws caeau amaethyddol at ffordd drol.
- Trowch i’r dde am fferm Porth Dinllaen, i’r chwith drwy ran o’r buarth ac yna ar draws maes carafanau, ar hyd llwybr rhwng dau glawdd, ac at Faes Golff Nefyn.
- Ymlaen ar eich union nes cyrraedd adeilad y Clwb Golff a dilyn y lôn darmac drwy’r maes golff am bentref Porth Dinllaen.
- O’r traeth yno, gallwch ddilyn llwybr yr arfordir o amgylch y trwyn ac yna tua’r gorllewin – bydd yn dod â chi at gilfach ddiddorol Aber-geirch a’i phompren dros afon Geirch.
- Dilynwch y llwybr ar hyd ben rallt wedyn a throi am y tir ychydig uwch ben Porth Tŷ Mawr. Croesi caeau nes cyrraedd lôn darmac wledig a aiff â chi’n ôl at lôn bost Edern. Troi i’r chwith ac yn ôl at y car/safle bws.