d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Y Parwyd

Cylchdaith y Parwyd – MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 7.4 km/4.6 milltir.
Amcan o’r amser: 2.5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes Parcio Porth Meudwy, SH162 253.

Pethau i weld ar y daith

1 Mynydd Mawr a Mynydd Gwyddel – Dyma’r ‘mynyddoedd’ yn mhen eithaf Llŷn gydag Ogof y Gath yn rhedeg rhyngddynt i lawr i Swnt Enlli. Yno yn y creigiau mae Ffynnon Fair.

Ffynnon Fair (SH 13982519)- Mae’r ffynnon yn enwog oherwydd iddi gael ei defnyddio gan y pererinion yn  Oes y Seintiau; ac yn hynod am fod dŵr croyw ynddi er fod yn môr yn golchi drosti ar lanw. Yno byddai’r seintiau yn craffu am olion carnau ceffyl Mair ac olion ei bysedd yn y creigiau cyn yfed o’i dŵr sanctaidd a dringo’n ôl i fyny Grisiau Mair. Mewn llythyr, a anfonodd Ieuan Llŷn at Dafydd Ddu Eryri yn 1796 wrth  sôn am Ffynnon Fair, Uwchmynydd crybwyllodd fod ôl carn ceffyl yn y graig.

Ffynnon Fair
Enlli o Ffynnon Fair

Capel Fair (SH 13922534) – Ar y gwastad lle mae’r llwybr yn cychwyn i lawr i’r ffynnon mae olion petryal Capel Mair. Yno câi cyrff y meirw eu cadw wrth ddisgwyl am dywydd ffafriol i groesi i Enlli i’w claddu. Ceir y cofnod cynharaf o Gapel Mair 1748 ar fap gan Lewis Morris yn 1748.

Olion Capel Fair
Olion Capel Fair

Mae ffordd goncrid a godwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn rhedeg i gopa Mynydd Mawr. Ar y copa ceir arddangosfa gan yr Ymddirieolaeth Genedlaethol. Mae’r gerdd olaf a ysgrifennodd Cynan wedi ei lleoli ar Fynydd Mawr a cheir disgrifiad hudolus o’r golygfeydd ac yn arbennig sancteiddrwydd Ynys Enlli. Dyma’r fan orau i weld Enlli.

Enlli o Mynydd Mawr
Enlli o Mynydd Mawr

2 Y Parwyd – Dyma ran o’r arfordir gyda’r gelltydd serthaf yn Llŷn. Rydym yn fwy cyfarwydd â’r enw parwyd yn ei ffurf luosog, parwydydd, ond a ddefnyddir yn gyffredin yma ac ar Drwyn Cilan i ddisgrifio craig serth iawn. Yn 1794 priodwyd dau o’r ardal ac aethant i fyw i Dŷ’n Lôn, Uwchmynydd, gerllaw’r Parwyd. Ymhen rhai blynyddoedd blinwyd hwy gan ddrychiolaeth, ond pan ddarllenid darn o’r Ysgrythur byddai’r ddrychiolaeth yn cilio i gyfeiriad y Parwyd ac yno y byddai’n hofran cyn diflannu. Canlyniad hyn fu i’r pâr ifanc ymadael a mynd i fyw i Rhwng Ddwyborth, plwyf Bodferin.

Yn yr ardal, yn 1801, gollyngwyd peilot o long ar greigiau Grepach. Roedd yn feddw iawn ond rhywsut llwyddodd i gyrraedd pen y clogwyn a mynd i gysgodi mewn corlan ddefaid. Yn y bore bach, a hynny cyn sobri, ceisiodd anelu am ei gartref ond aeth i’r cyfeiriad anghywir a diflannodd dros y dibyn ac i’r môr. Dywed Myrddin Fardd mai’r enw addas ar y fan hon yn ei amser ef oedd Pared Gallt Uffern “am ei bod megys yn erchwyn i’r cyfyngfor tonog ac enbydus y sy rhyngddi ag Ynys Enlli”.

3 Porth Meudwy (SH 16302550) – Dyma un o borthladdoedd bach enwocaf Llŷn a hynny yn bennaf am mai oddi yma yr aiff y cychod i Ynys Enlli. Cyfeirir ato yn 1524 fel Porth Muduy. Ond roedd yn fan prysur iawn cyn hynny gan mai oddi yma y cychwynnai’r pererinion ar eu taith ar draws y Swnt i Enlli. Gerllaw mae ffermydd yn dwyn yr enw Bodermid. Yr un elfen sydd yn hwn â’r ffurf Saesneg hermit, meudwy yn Gymraeg. Ymwelodd Thomas Pennant â Phorth Meudwy yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a disgrifiodd y fan fel “lle cyfleus iawn i bysgotwyr, a noddfa ddiogel rhag stormydd”.

4 Swnt Enlli – Yr hen enw ar y Swnt yw Ffrydiau Caswennan. Mae trai a llanw’r culfor hwn rhwng Ynys Enlli a’r Tir Mawr yn dywyllodrus iawn a dim ond y mwyaf profiadol fydd yn mentro ar ei draws. Gwelir craig ar ochr y Tir Mawr i’r Swnt a elwir yn Faen Du.

Swnt Enlli o'r awyr  uwchben Mynydd y Gwyddel
Swnt Enlli o’r awyr uwchben Mynydd y Gwyddel

5 Nant yr Hen Lyn Uchaf – Chwarel sets oedd hon ym Mhorth y Pistyll ar Drwyn Dwmi. Er y bu cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill, fel codi tai a chapel i’r gweithwyr, ni chafwyd llwyddiant. Mae muriau cadarn adeilad y cychwynnwyd ei godi mewn perthynas â’r gwaith i’w gweld heddiw ar ochr y ffordd rhwng Bodermid a Phen y Cil. Adeiladwyd glanfa yn y môr hefyd ond nis defnyddiwyd. Cafwyd damwain angheuol yno yn y tridegau (1930) pan laddwyd Robert Evans, Dynfra, Aberdaron.

6 Ynys Enlli

Un o ynysoedd enwocaf Cymru yn arbennig felly am y credir fod 20,000 o saint wedi’u claddu yno. Roedd yn ynys sanctaidd o’r cychwyn cyntaf un, a chredid fod tair pererindod i Enlli yn gyfystyr ac un i Rufain. Yn y 6ed ganrif O.C.. sefydlodd Cadfan, mynach o Lydaw, yr abaty a bu’r ynys yn gyrchfan pererinion byth ers hynny.
Bellach mae’n eiddo i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, gellir treulio cyfnod yno a threfnir teithiau diwrnod o’r Tir Mawr. Mae’n gyrchfan i adarwyr gan ei fod yn denu adar prin iawn ar eu teithiau ymfudol.

O lwybr Y Parwyd byddwch yn gweld Ynys Enlli , Dyma ynys yr hen fyneich a’r seintiau Celtaidd a chanolfan dreftadaeth awyr agored sy’n gyforiog hefyd o hanesion am yr hen ynyswyr a’u ffordd o fyw. Gellir cael teithiau am y diwrnod i’r ynys drwy gysylltu â Colin Evans, cychwr Enlli (07971 769895; www.bardseyboattrips.com).

Y gwr sanctaidd cyntaf yr honnir iddo -fod ar Enlli oedd Einion Frenin, y tybir iddo gyrraedd tua 429 O.C. Credir i Sant Cadfan gyrraedd tua 516 O.C ac iddo ddechrau adeiladu mynachlog ym mhen gogleddol yr ynys. Ychydig o’r adeilad gwreiddiol hwn sydd ar ôl. Mae’r traddodiadau sy’n ymwneud â sefydliadau mynachaidd Enlli wedi’u dogfennu’n gymharol ddiweddar. Mae Llywelyn Fardd, a oedd yn ysgrifennu yn y 12fed ganrif, yn cyfeirio at y sefydliad yn y 6ed ganrif a ffurfiwyd gan Cadfan a Lleuddad. Honnir hefyd bod Beuno o Glynnog, Dyfrig o Went a Phadarn o Arfon yn gorwedd yno. Roedd Gerallt Gymro wedi clywed bod Deiniol o Fangor hefyd wedi’i gladdu ar Enlli, a Gerallt, yn y 1180au, sy’n rhoi adroddiad cynnar o’r traddodiad bod myrdd o saint wedi’u claddu yno; 20,000 yn ôl adroddiadau diweddarach.

Ceir tystiolaeth benodol mewn dwy gofeb gladdu a ddarganfuwyd: darn o groesfaen â llun corff arni uwchben panel o glymau yn plethu drwy’i gilydd, ag arysgrif yn coffáu ‘Esyllt’, neu enw tebyg, ar un o’r ochrau byr; a charreg â siâp croes arni yn dyddio o’r un cyfnod fwy neu lai.

Mwy….. Cenhadwyr y 6ed Ganrif

Ym 1012 mae Brut y Tywysogion yn cofnodi marwolaeth Iarddur, un o fynachod Enlli. Ym 1995, datgloddiwyd beddau gan Chris Arnold, o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ar y pryd, ac roedd un ohonynt yn cynnwys penglog â darn o aur yn ei geg yn dyddio o c.1070.

Yn 597 AD. daeth cenhadaeth Sant Awstin ag Eglwys Rhufain i Brydain. Buodd brwydr faith am oruchafiaeth rhyngddi hi a’r Eglwys Geltaidd, a oedd yn wahanol iddi mewn sawl agwedd bwysig, er enghraifft y dull o benderfynu dyddiad y Pasg a’r agwedd at asgetigiaeth. Hyd nes gwnaeth yr Esgob Elfodd o Wynedd, ddod a Christnogaeth Gwynedd o dan gyfyndrefn Rhyfain wrth ddathlu y Pasg yn 768. Eglwys Rufain enillodd yn y pen draw, ond ni ildiodd yr Eglwys Geltaidd yn hawdd ac fe oroesodd tan y 12fed ganrif mewn rhannau o Brydain Geltaidd. Daeth canoniaid Awstinaidd a’r drefn Rufeinig i’r ynys rywbryd yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, gan adeiladu Abaty Santes Fair Enlli, y mae rhannau ohono’n dal i sefyll.

Cyfarwyddiadau

Parcio yn maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol uwchben Porth Meudwy (SH 162 253). (O ffordd Aberdaron i Uwchmynydd dylid dilyn y ffordd sy’n arwain i gyfeiriad maes carafanau Tir Glyn). Neu gellir cerdded i Borth Meudwy ar hyLlwybr Arfordir Llŷn o Aberdaron.

  • Cerdded i lawr y llwybr i Borth Meudwy o’r maes parcio
  • Dringo’r allt tua’r de ar Lwybr Arfordir Llŷn a dilyn hwnnw nes bron a chyrraedd Craig Cwlwm (creigiau ar ben yr allt)
  • Dilyn Llwybr Arfordir Llŷn i ffwrdd oddi wrth y môr, croesi caeau a dod allan i’r ffordd fawr. (dwy fferm Bodermid gerllaw)
  • Troi i’r chwith ac ymlaen heibio i adeilad cerrig di-do (Gwaith Trwyn Dwmi) yn y cae dros y ffordd. (SH 158251)
  • Parhau i ben draw’r ffordd a thrwy giat ger Môr Awelon (SH 158248)
  • Parhau eto ymlaen at gamfa. (SH 154 246) ger Grepach. Yma gellir dewis mynd dros y gamfa a cherdded i Ben y Cil (SH 157240) (Ymdd. Gen.) lle ceir golygfeydd o Swnt Enlli a Bae Ceredigion a‘r Parwyd – ar y dde – gyda’i elltydd serth iawn. Yna dychwelyd at y gamfa.
  • Mae’r llwybr yn dilyn yr arfordir trwy fynd trwy giat a cherdded i dir yr Ymdd. Gen. – Mynydd Bychestyn.(SH 151244) Parhau ar y llwybr, heibio corlan, nes dod at gychwyn ffordd dar yn arwain i lawr i’r dde. (SH 149248) (I’r chwith gwelir dau dyddyn ac Ynys Enlli tu hwnt iddynt)
  • Dilyn y ffordd dar nes dod i arwydd Llwybr Arfordir Llŷn yn arwain i’r chwith.
  • Ym mhen draw’r llwybr (ger tŷ Mawr) (SH 144 256) byddwch yn ymuno a ffordd dar Uwchmynydd i Fynydd Mawr. Dilyn y ffordd honno i’r dde i gyfeiriad Uwchmynydd ac ymlaen nes cyrraedd Pen Bryn Bach (bwyty) (SH 150 258). Yno mae llwybr i’r gorllewin sy’n arwain i lon dar arall.
  • Dal i’r dde ar y ffordd honno am ychydig ac i lwybr ar y chwith sy’n mynd ar ben clawdd.
  • Daw’r llwybr pen clawdd allan ger Tir Glyn. (SH 157257)
  • Dilyn y ffordd da i’r chwith nes dychwelyd at y maes parcio. (Ychydig ymlaen ar y chwith mae fferm Cwrt.)

ffynonellau llyfryddiaeth

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn