d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Cylchdaith Nefyn

Manylion y daith

Amcan o hyd: 6.4km/4 milltir.
Amcan o’r amser: 2 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Maes parcio traeth Nefyn, SH302 407.

DISGRIFIAD

1 Nefyn – Mae hen dref Nefyn wedi bod yn dref o statws ers Oes y Tywysogion Cymreig. Llys y Tywysogion Cymreig yn Nefyn oedd canolfan weinyddol cwmwd Dinllaen. Ni wyddom am leoliad y llys ond mae yno Stryd y Plas a gwyddom ei fod yn adeilad deulawr. Yma arhosodd Edward y Cyntaf a’i osgordd pan ymwelodd â Llŷn yn 1284 a bu’n rhaid cynyddu maint y poptai ar ei gyfer ef a’i osgordd. Er i Nefyn dderbyn siarter frenhinol gan goron Lloegr yn 1355, yn wahanol i Gonwy a Chaernarfon, ni fu ymgais yma i danseilio’r boblogaeth Gymreig a chreu coloni o fewnfudwyr breintiedig. Bu’n dref farchnad ac yn borthladd prysur am ganrifoedd.

Datblygodd y diwydiant pysgota yn Nefyn yn ystod yr 17eg ganrif ac erbyn 1748 roedd glanfa yma i ddod â’r pysgod i’r lan i’w trin. Penwaig oedd y brif helfa a byddent yn cael eu halltu, eu cochi, neu eu gwerthu’n ffres o’r môr. Daethant yn enwog ledled y wlad a’r enw arnynt oedd “bîff Nefyn”.

Pysgotwyr Nefyn
Pysgotwyr Nefyn

Mae tri phennog ar arfbais tre Nefyn. Pedwar dyn fyddai ym mhob cwch a châi’r helfa ei rhannu rhyngddynt a pherchennog y cwch. Rhwng misoedd Medi ac Ionawr oedd y tymor pysgota. Aeth y penwaig yn ddifrifol o brin yn yr 1830au ond daeth tro ar fyd wedyn pan oedd cymaint o bysgod dros ben nes iddynt gael eu defnyddio fel gwrtaith ar gaeau cyfagos. Rhoddwyd y gorau i bysgota ar raddfa fasnachol yn yr 1920au.

2 Amgueddfa Morwrol Nefyn – Mae Amgueddfa Forwrol Llŷn wedi’i lleoli yn hen eglwys y dref. Dethlir treftadaeth y rhan hon o arfordir Gwynedd drwy’r casgliadau diddorol a gafodd lety yn Eglwys y Santes Fair, sydd â’i sylfeini’n dyddio’n ôl i’r chweched ganrif ac a oedd ar un adeg yn ganolfan bwysig ar Lwybr y Pererinion. Adnewyddwyd adeiladau’r amgueddfa yn sylweddol yn 2014. Yn y fynwent, sy’n amgylchynu’r eglwys, mae beddi llawer o forwyr a chapteiniaid Nefyn a’r ardal leol. (www.amgueddfa-forwrol-llyn.co.uk)

3 Cae Iorwerth / Pysgodyn (ar twrneimant) – Siâp hirgul y cae sy’n gyfrifol am roi’r enw Cae Pysgodyn arno. Yr enw swyddogol arno yw ‘Cae Iorwerth’ yn dilyn ymweliad Edward y Cyntaf  â Nefyn. Cynhaliodd hwnnw dwrnament yno yn 1284 i ddathlu ei fuddugoliaeth dros y Cymry yn dilyn llofruddio Llewelyn ap Gruffudd yn 1282.

Yn ystod y daith, yng ngeiriau Brut y Tywysogion, fersiwn llawysgrif Peniarth 20, – y peris gwneythur torneymant en nevyn en llyn”. Yn foel ac ymataliol fel yna y cofnododd rhyw fynach o Gymro’r sbloet, eithr yng nghroniclau mynaich o Saeson y mae’r hanes yn llawnach o sbel. Dyna gronicl William Rishanger, mynach yn abaty St. Albans, cronicl sy’n deillio o oes Edward Frenin ei hun: “Hoc anno militia Anglicana, et multi nobiles transmarini, circa festum Beati Petri ad Vincula, apud Neuyn in Snoudonia in choreis et hastiludiis Rotundam Tabulam celebrarunt. “ Y flwyddyn hon [1284], oddeutu Gŵyl y Gwynfydedig Bedr mewn Cadwynau (sef, Awst y cyntaf), dathlodd milwyr y Saeson, a llawer o foneddigion o dros y môr, Ford Gron, yn Nefyn yn Eryri, gyda dawnsfeydd ac ymrysonfeydd gwaywffyn.

Traddodiad Ffrengig oedd i’r twrnamaint, a hwnnw’n llawn rhialtwch a chwaraeon milwrol. Erbyn ail hanner y 13eg ganrif roedd y milwyr a’u ceffylau yn gwisgo gwisg o ddur. Ond roedd traddodiadau poblogaidd Arthuraidd y Ford Gron yn y dathlu. Ymgais gan Edward y Cyntaf oedd hyn i uniaethu ei hun â’r Cymry.

Ac yn annales Dunstable, yn nodweddiadol ddigon, sonnir am gostau’r dathlu: “ubi fecerat dominus rex apparatum maximum et expensas … “ yno [sef yn Nefyn] gwnaeth yr arglwydd frenin baratoadau helaeth a chostus . . .

Ychwanegir manylyn diddorol am anhap a ddigwyddodd yn ystod y dathliadau yn annales priordy Caerwrangon: Torniamento apud KaernaIVen existente, multi nobiles cum in quodam solario tripudiarent impudice, corruente domo miserabili ter corruerunt. “ Mewn twrnamaint a fu yng Nghaernarfon cwympodd y tŷ lle’r oedd llawer o foneddigion yn dawnsio’n ysgyfala mewn goruwch-ystafell, a syrthiasant i’r llawr yn druenus. (Plas, Stryd y Plas mae’n debyg).

Pwysleisir pwysigrwydd rhwysgfawr y dyrfa a gyrchodd i Nefyn ym mlwyddiadur neu annales mynachlog Waverley: “item convenerunt comites, baranes, milites de regno Angliae, ac etiam multi proceres transmarini … “ Yr un pryd ymgasglodd dilynwyr a barwniaid a milwyr brenin y Saeson, a hefyd lawer iawn o wŷr bonheddig o dros y môr …

a thanlinellir amcan y cyfan i gyd : “in signum triumphi contra Wallensium proterviam expediti.” sef arwydd buddugoliaeth a goruchafiaeth lwyr dros y Cymry.

Dywed Yr Athro Bedwyr Lewis Jones – “Bellach ymryson rhwng unigolion a hynny yng ngŵydd cynulleidfa ydoedd, yn lle ymryson rhwng dwy blaid yn diweddu’n ysgarmes afreolus wyllt. Byddai, boneddigesau bid siŵr, ymhlith yr edrychwyr; ac roedd i wledda a dawnsio le amwg iawn. Achlysur cymdeithasol ydoedd,  Ascot y drydedd ganrif ar ddeg. Sbloit liwgar fel hyn a gynhaliwyd yn Nefyn yn 1284.” ( Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon).

Y gred yn lleol ydi mai ar dir Botacho Ddu roedd y twrneimant ond rhaid cofio bod Cae Iorwerth yng nghyffiniau Nefyn a Chae Ymryson (Mapiau Degwm 1839) yng nghanol plwyf Ceidio. Mae’n bur debyg mai yng nghyffiniau’r plas roedd y lleoliad, o dan y Fron wrth odre Garn Boduan.

Rheilfordd Nefyn – Yr Herald Gymraeg Ion 21 1919 – “Galwodd Mr. W.R.Davies o Nefyn, fantais, a fuasai rheilffordd i ddatblygu’r lle fel cyrchfan ymwelwyr, a dywedodd fod yno tua pedair mil o ymwelwyr yn Nefyn ac Abersoch yn yr haf….” mwy…

Cynllun G.W.R. 1924 – terminus- Cae Pysgodyn!

4 Porth Nefyn – Mae Porth Nefyn yn cadw blas o ddylanwad y môr ar yr ardal hon. Mae’n gilfach ddiddorol a fu’n brysur o ran y diwydiant pysgota penwaig ac adeiladu llongau ar un cyfnod. Tri phennog yw arfbais Nefyn a dyna brif gynnyrch y dref. Byddai’r pysgotwyr yn hwylio mor bell ag arfordir Iwerddon i rwydo penwaig. Erbyn 1910 roedd 40 o gychod pysgota 18 troedfedd o hyd yma, gyda chriw o bedwar pysgotwr ym mhob un.

Cynnyrch fferm oedd y prif allforion ar hyd y blynyddoedd er y bu prysurdeb pan oedd gwaith brics Morfa Nefyn yn ei fri rhwng 1868 a 1906 a glanfa ym Mwlch Bridyn (SH 28224084) wedi’i godi ar gyfer y llongau. Gweler Cylchdaith Edern 9 a 10 a chwarel ithfaen ‘sets’ y Gwylwyr /Wern Gweler Llwybr Clynnog Fawr – Nefyn. 10

‘ A coastal View’ – Christopher Williams 1912

Yn y 17eg ganrif mae cofnod bod menyn mewn tybiau, caws wrth y canpwys, gwlân, crwyn, penwaig a phenfras wedi’u hallforio oddi yma. Cafodd penwaig gwynion a chochion eu hallforio ar ddwy long, ‘Mathew’ a ‘Mary’, i Gaer yn 1620; ac yn 1685 aeth 50 casgen o benwaig gwynion, 18 casgen o benwaig cochion a 2½ casgen o benfras i Gaer ar y ‘Richard and Jane’. Rhwng Nefyn a Phorthdinllaen cafodd cannoedd o gasgenni o benwaig eu cario. Ddechrau’r 19eg ganrif  roedden nhw’n allforio gwrtaith oddi yma, rhedyn a lludw, a 25 llwyth o haidd yn 1844 i Gaernarfon.

Roedd llongau Porthdinllaen a Nefyn yn cario o Fangor i Ddulun yng nghanol y 17eg ganrif. Cymaint oedd y galw am lechi nes daeth cynllun i agor rheilffordd i’w cario o Gaernarfon i Borthdinllaen ar gyfer eu hallforio. Un rheswm oedd fod costau harbwr Caernarfon mor uchel a byddai’n rhaid talu peilotiaid i dywys y llongau dros y bar. Ond ni ddaeth hyn i fodolaeth.

Adeiladwyd llawer o dai mawreddog Nefyn gan gapteiniaid llongau. Roedd honno yn alwedigaeth nodedig ar hyd y glannau hyn tan ddiwedd oes y llongau hwyliau. Ar un adeg roedd cynifer â deg ar hugain o gapteiniaid llong yn byw yma.

Llongau Nefyn

Y llong “Belford”

Y llong “BELFORD” 1,900 tunnell;  Cwmni R. Thomas: Nefyn – Cricieth – Lerpwl.  Cafodd ei suddo gan long danfor Almaenaidd 300 milltir o arfordir Iwerddon yn Chwefror 1917.  Ar ôl i’r criw fynd i’r cychod dywedodd capten y llong danfor y buasai’n ei thynnu’n nes i dir ond ar ôl cael tipyn o gyflymdra aeth i lawr o dan y dŵr a thynnu’r cychod ar ei ôl ond torodd yr rhaff. Capten Davies Craig-Y-Môr , Nefyn, oedd meistr y “BELFORD” ar y pryd.

Y Sgwner “EBENEZER PARRY”

Y Sgwner “EBENEZER PARRY” 182 tunnell, Meistr H. Parry, Nefyn. Y perchennog oedd Henry Parry, Stryd y Ffynnon, Nefyn.  Adeiladwyd yn 1877 yn Nefyn gan Griffith Owen. Gwerthwyd i Fowey yn 1912, ac fe’i collwyd hi yn Havre yn 1917. Ar ôl ei gwerthu, newidiwyd ei henw i “ELLEN LLOYD” a wedyn “ROBERT MARGUERITE”.

cerrig-mawr
Adeiladu Cychod wrth cerrig-mawr

Robert Thomas (1814-1869), Derwen, Y Fron, Nefyn oedd saer llongau mwyaf y dref. Mae ei dŷ, Y Fron, i’w weld wrth deithio i fyny i Fynydd Nefyn. Yn ôl ei fab, Capten Robert Thomas, roedd ganddo dros gant o seiri ar ei lyfrau. Ymhlith yr 13 o longau a adeiladodd yn Nefyn roedd y “LINUS” yn 1857, rigiwr sgwâr ac yn ôl pob sôn roedd yn un o’r llongau cyflymaf yn yr ardal. Hwyliodd ledled y byd, i Dde America ac o amgylch Cape Horn ac er iddi gael ei gwerthu ymlaen ychydig o weithiau, roedd yn dal ar y cefnfor yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Y Linus

Clwb Mawr – Adeiladwyd yr adeilad hwn yn 1846 gan Gymdeithas Gyfeillgar Nefyn. Cafodd y gymdeithas ei sefydlu fel yswiriant lleol, rhag marwolaeth a gwaeledd mawr, drwy danysgrifiadau blynyddol. Ffurfiwyd y Clwb Mawr yn 1827 gan John Roberts (Bwlch Glas), William Evans (Tan y Maes), Hugh Davies (Tŷ Clap) a Henry Jones (Holborn). Fe’i defnyddiwyd hefyd fel ysgol a man addoli gan y Bedyddwyr. Fe’i defnyddiwyd hefyd fel ysgol i hyfforddi morwyr yn y grefft o forwriaeth a mordwyo.

Clwb Mawr
Clwb Mawr

Erbyn 1879 roedd 8 cymdeithas yswiriant morol cydfuddiannol wedi eu lleoli yn Nefyn gyda llongau wedi eu hyswirio am fwy na £2,000,000.  

5 Cwrw Llŷn – Mae Bragdy Cwrw Llŷn i’w weld mewn parc busnes ar Ffordd Dewi Sant, B4417. Bragdy lleol ydi hwn, yn cynhyrchu cwrw go-iawn ac yn cynnig teithiau ymweld o amgylch y gweithdy, cael cip ar y broses o fragu a chael cyfle i brynu cynnyrch a swfenirau yn y siop nwyddau yno. Ymysg y poteli cwrw sydd ar werth yno mae Brenin Enlli, Cochyn a Seithenyn sy’n dangos eu bod yn defnyddio hanes a chwedlau lleol wrth frandio.  www.cwrwllyn.cymru

6 Y Tŵr – Ychydig sy’n weddill o’r  castell mwnt a beili a adeiladwyd, o bosib, yn yr 11eg ganrif gan Iarll Normanaidd Caer, Hugh D’Avranches; un o nifer o‘i fath a adeiladodd ar hyd arfordir Gogledd Cymru, yn ystod y goresgyniad byr, Normanaidd hwnnw.

Y Tŵr Nefyn
Y Tŵr Nefyn

Adeiladwyd y tŵr gwylio ym Mhen y Bryn, Nefyn, yn yr 19eg ganrif ar union safle ‘castell’ mwnt a beili o’r 12fed ganrif. mwy…

7 Caeau Capel – Adeiladwyd y tŷ mawreddog hwn yn yr 19eg ganrif fel cartre gwledig i deulu Miller. Arferai’r Prif Weinidog Clement Atlee ymweld yn aml a phriododd â Violet, merch Henry Edward Miller.

Caeau Capel
Caeau Capel
Clement Atlee
Clement Atlee

8 Nanhoron Arms Hotel – Adeiladiwyd yn 1914

Nanhoron Arms Hotel
Nanhoron Arms Hotel
Bws Cambrian
Bws Cambrian

9 Tŷ Receifer – Un o ddau fwthyn yn dyddio o’r 18ed ganrif a adeiladwyd gan Ystâd Nanhoron ar safle tŷ cynharach oedd yn eiddo i Humphrey Jones, Derbynnydd Cyllid Cyffredinol Gogledd Cymru ar ran Siarl y Cyntaf.

Pen Isa’ Dre – yw’r rhan yma o’r dref. Yr oedd yma felin yn cael ei phweru gan yr afon Mynach a llwybr rhaff at wasanaeth gwneud rhaffau ar gyfer y fasnach adeiladu llongau. Yr oedd iard lö yn arfer bod y tu ôl i lle roedd yr hen Orsaf Dân. Dyma le yr oedd Owen Parry yn cadw ei gerbydau modur pan ffurfiodd y  Nefyn and District Omnibus Company.

Tŷ Receiver
Tŷ Receiver
Nefyn Omnibus Co.
Nefyn Omnibus Co.

10 Y Groes – Ar droad y 18fed/19eg ganrif roedd y rhan fwyaf o adeiladau’r fwrdeistref wedi eu crynhoi yn yr ardal o amgylch y groes; ar gyffordd Stryd y Ffynnon, Stryd y Plas a’r Stryd Fawr; ac i’r gogledd ar hyd Stryd y Ffynnon.

Y Groes - Stryd y Ffynnon
Y Groes – Stryd y Ffynnon
Y Groes - Stryd Fawr
Y Groes – Stryd Fawr

Roedd ychydig o adeiladau gwasgaredig i’r de o’r eglwys ar hyd Stryd y Llan ac i’r gogledd o’r eglwys.

'Old Post' - Pen Bryn i Ffordd Dewi Sant
‘Old Post’ – Pen Bryn i Ffordd Dewi Sant

Mae’r ddwy stryd, Stryd y Plas a’r Stryd Fawr, yn dargyfeirio i’r de a’r de-orllewin o’r Groes, gan greu lle gwag o fewn y triongl hwnnw lle’r oedd y Maes. Roedd y ffynnon ym mhen deheuol Stryd y Ffynnon ac roedd y ffrwd a ddeuai ohoni yn llifo fwy neu lai i lawr canol y stryd.

11 Stryd Y Plas – Nefyn oedd canolfan cwmwd Dinllaen ac yn un o brif ganolfannau tywysogion Gwynedd yn y 12ed ganrif. Yn 1355 daeth yn fwrdeistref rydd ac adlewyrchir ei phwysigrwydd yn enwau’r strydoedd: Stryd y Plas a Bryn Mynach.

Yn ôl y sôn, yn ystod dathliadau’r twrnamaint yn 1284, i ddathlu concro Cymry, bu’r holl ddawnsio gan Edward y Cyntaf yn y plas yn ormod i’r hen lawr pren ac fe ddisgynnodd trwy’r llawr!

Stryd y Plas
Stryd y Plas
Gwaelod Stryd y Plas
Gwaelod Stryd y Plas

Mae cofnod o 1306-7 am y gwaith a wnaed ar yr adeiladau. Ond yr unig adeilad sydd â’i olion wedi goroesi cyn y 18ed ganrif yw  mwnt yr hen gastell Normanaidd lle codwyd ‘Y Tŵr’. Ni ddengys cynllun y dref unrhyw arwydd o gysondeb o ran patrwm a gysylltir gyda bwrdeistrefi Edwardaidd fel Conwy neu Gaernarfon, a does dim prawf iddi gael ei grymuso. Ym 1349 rhoddwyd Nefyn i Nigel Loryng, siambrlen y Tywysog Du. Ym 1355 cynghorodd Loryng y Tywysog Du i ryddfreinio Nefyn (a Phwllheli) a chreu bwrdeistrefi rhydd yno. I gydnabod ei wasanaeth yn Poitiers, yn 1356, rhoddwyd y ddwy fwrdeistref i Nigel Loryng am byth am rent blynyddol o un rhosyn.

Yn ystod y gwrthryfel yn 1400 llosgodd Owain Glyndŵr Nefyn i’r llawr am ei bod yn Fwrdeistref Frenhinol, a bu’n rhaid i bawb ffoi.

12 Pwll William – Mae Pwll William hanner ffordd rhwng penrhyn Nefyn a Morfa Nefyn. Lôn Penrallt yw’r ffordd sy’n rhedeg gyda’r arfordir. Yma ym Mhwll William neu Penrallt arferai plant a chyn gapteiniaid llongau ddwad i chwarae a hwylio cychod model ac adrodd a gwrando ar y straeon am y gwledydd pell a’r dyddiau a fu.

Pwll William
Pwll William

Mae cyfeiriad at Bwll Penrallt a Mynydd Nefyn yng ngeiriau enwog “Y Sgwner Tri Mast”, un o ganeuon môr J Glyn Davies. Mwy- Cylchdaith Edern

ffynonellau llyfryddiaeth

CYFARWYDDIADAU

  • O’r maes parcio uwch y traeth, cerddwch yn ôl i gyfeiriad Ffordd Dewi Sant Nefyn/Morfa Nefyn.
  • Ar ben yr allt, cyn cyrraedd y briffordd, trowch i’r chwith ar hyd Rhodfa’r Môr ac yna mae llwybr yn dilyn yr arfordir cyn troi am ganol yr hen dref.
  • Heibio hen eglwys y Santes Fair, ac yna byddwch yn gweu ar hyd nifer o strydoedd cefn difyr cyn mynd ymlaen am Gae Pysgodyn.
  • Oddi yno, mae dringfa fer i ben bryncyn, croesi priffordd A497 a dilyn llwybrau drwy gaeau amaethyddol yn ôl i gyfeiriad yr arfordir.
  • Croeswch y ffordd B4417 rhwng Nefyn a Morfa Nefyn ac yna dilynwch Lôn Pwll William at lyn bychan.
  • Cadwch gydag ochr chwith y pwll a mynd ymlaen at ben allt y môr gyda golygfeydd braf o Borth Nefyn. Yna yn ôl ar hyd Lôn y Traeth i’r maes parcio.

Yn ôl i dudalen Llwybrau Cylchol Llŷn