d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Llwybr Llangwnnadl – Plas yn Rhiw

Gwyliwch Aled Hughes (BBC radio Cymru) yn cerdded y daith yma.- Llangwnnadl – Plas yn Rhiw (3 rhan)

MANYLION Y DAITH

Amcan o hyd: 28.3km/17.6 milltir.
Amcan o’r amser: 7-8 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 254.
Man cychwyn / gorffen: Penllech (SH 205 346) / Plas yn Rhiw (SH 237 282).

PETHAU I WELD AR Y DAITH

1 Porth Tŷ Mawr / Y Stuart – 1901 – Ym Mhorth Tŷ Mawr, yr aeth y “Stuart” i helbulon; mae’r hanes hwn hefyd wedi ei groniclo yng nghyfres deledu “Almanac”. Yr hyn sy’n tynnu’r holl sylw at y llongddrylliad hwn yw mai wisgi oedd cyfran go dda o’r cargo. Canlyniad hyn fu rhoi enw newydd i’r fan, sef Porth Wisgi. Mae’n debyg y bu cryn ysbeilio yma, a’r pictiwr a gawn yw fod pawb, o’r byd a’r betws, am y gorau unai yn casglu’r poteli neu yn yfed cymaint ag oedd modd.

‘Does dim amheuaeth na fu 1901 yn dipyn o flwyddyn yn y fro a mynegwyd cryn bryder yng Nghyfarfod Ysgol Dosbarth Pen LIŷn. Gosodwyd y testun “Ysgrif fer ar gychwyniad, a drylliad y llong ‘Stuart’ ar greigiau Porth Ty Mawr, Llŷn” yng Nghymldeithas Lenyddol Pen y Graig yn 1925 a gwelir y pryder am safonau moesol y trigolion yn parhau chwarter canrif yn ddiweddarach. Disgrifia’r buddugol, J. 0. Roberts, Tŷ Mawr Penllech mewn sobrwydd y sefylllfa a dyfynnaf ef heb ddiweddaru’r orgraff,
Yr oedd “staen” y gwaed ar y wefus, yn profi nad oedd gan ambell un ddim at dynnu corcyn or botel, felly nid oedd dim iw wneud ond taro ei gwddf yn y graig, ac arllwys yr hylif poeth ir cylla heb gofio am y gwydr miniog! mewn lle ychydig or neulltu yr oedd “cask”, ac wedi taro ei dalcen i mewn, canfuwyd yn ebrwydd pa beth oedd ei gynwysiad- “wisgi” “angen yw mam dyfais”- medd hen air, – wele un yn tynu ei esgid ac yn ei yfed o hono fel or “glass” gore allan un arall gyda’i flwch myglus, etc. pawb yn hwyluso y gwaith o’i wagio. Gerllaw yr oedd ffrwd fechan loyw-ber fel grisial, yn sisial rhwng y cerrig; ac yn llifo dros y bistylloedd bychain dros y creigiau i lawr tua’r môr, a’i llwybr mor laned a’r awyr ond yr oedd yn well gan ddyn serio ei gylla, pylu ei ymenydd, haearneiddio ei gydwybod, a hyrddio ei enaid i ddinistr bythol guda hylif y “cask”, yn hytrach na manteisio ar ddiod Duw, – dŵr. 0 ynfydrwydd – a pha hyd?

Bu’r baledwyr yn brysur hefyd, a phan osodwyd y digwyddiad hwn yn destun yn Eisteddfod y Rhos yn 1902, John Owen, Brychdir ddaeth yn fuddugol.

Ceir peth o hanes y “Stuart” yn “BIas Hir Hel” a hefyd fe’i crybwyllir yn “Pigau’r Sêr”. Yn ôl darlith Robin Gwyndaf ymwelodd Serah Trenholme, â’r fan a gwelodd yr ysbeilio. Cefais ei hanes yn fanwl gan fy ewythr. Evan John Griffith, gan fod nodiadau Hugh W. Jones, Bryn Villa ganddo. Roedd Hugh Jones Bryn yn llygad-dyst i’r cyfan ac yn gofnodwr manwl.
Cychwyn wnaeth hi o Lerpwl i Seland Newydd ar Wener y Groglith 1901 gyda chriw o 19 a’i swyddogion ifanc. Mae’n rhaid mai diffyg profiad oedd yn fwyaf cyfrifol am y “ddamwain” gan nad oedd y tywydd yn ddrwg, niwi a glaw mân yn ôl y sôn, a dim byd gwaeth. Credid y byddai modd ei hwylio eilwaith ar ôl iddi ddod i’r lan, ond ymhen ychydig ddyddiau cododd gwynt o’r môr a thorri ei mastiau a’r rheini yn eu tro yn disgyn ar y llong a’i hagor. Canlyniad hyn fu gwasgaru’r cargo oedd yn cynnwys llestri, wisgi, stowt, canhwyllau, matsus, pianos, gorchuddiau lloriau ac yn y blaen. Mae’r llestri i’w gweld hyd dreselydd yr ardal heddiw ac mae rhai poteli or wisgi yn dal heb eu hagor.
Mae un o diwbiau’r “Stuart” i’w weld yn glir yn y creigiau melynion heddiw, a daw peth ohoni i’r golwg ar dreiau mawr.
Un o’r ffactorau oedd yn gyfrifol am y trafferthion yr aeth y “Stuart” iddynt oedd i’w chel fynd ar draws llong arall oedd yn gorwedd o dan y dwr. Y “Sorrento” Mwy…

diolch i Elfed Gruffydd am dyffyniadau o ‘Ar hyd ben ‘rallt’

2  Porth Iago – (SH 16753165) trowch i’r chwith ar lôn fferm a mynd i Tŷ Mawr Bodferin (parcio) Traeth bychan tywodlyd hynod o gysgodol yn wynebu’r de orllewin ydyw. Nid yw Llwybr Arfordir Cymru’n mynd trwy fan hyn.

Allan yn y môr o’r Tyllborth i’r gogledd mae Maen Mellt. Bu hwn yn broblem i longau ar hyd y canrifoedd gan fod natur y garreg ynddo’n fagnetig ac yn amharu ar gwmpawdau llongau. I’r de o Both Iago aeth y ‘Newry’ ar y creigiau yn Ogof Newry:

‘Llong go fawr a gariai ymfudwyr o Iwerddon i Quebec ym mis Ebrill 1833 oedd y Newry. Aeth ar y creigiau a chollwyd pump ar hugain o’r pedwar cant oedd ar ei bwrdd. Byddai’r colledion yn llawer uwch oni bai am ddewrder Dafydd Griffith, hen forwr a drigai ym Morfa Trwyn Glas. O ganlyniad i’w ddewrder enillodd fedal gan y Gymdeithas Frenhinol Genedlaethol, ynghyd ag £20. Trosglwyddwyd y fedal hon o un Dafydd Griffith i’r llall. Claddwyd y rhai a gollwyd oddi ar fwrdd y Newry ym mynwent Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron.

Porth Iago

3 Porthor – Tir ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Caiff ei adnabod gan ei lys enw Saesneg ‘Whistling Sands’, enw a gafwyd oherwydd y sŵn a gaiff ei wneud wrth gerdded dros y tywod gwyn. Daw’r sŵn oherwydd straen croeswasgiad pwysau ar y tywod, a dim ond dau draeth yn Ewrop gyfan sydd yn gwenud hyn.  Mae’r maes parcio agosaf 590ft/180m i ffwrdd, er nid yw hyn yn ei rhwystro rhag bod yn hynod o boblogaidd gyda theuluoedd yn chwilio am ddiwrnod allan. Mae’r golygfeydd oddi wrth y traeth – a nifer o’r llwybrau cerdded – yn anfarwol. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar yr traeth. Drwy gydol misoedd yr haf ceir siop a thoiledau.

Porth Iago
Porth Iago

4 Chwarel Iasbis Carreg – Ym 1901 darganfuwyd gwythiennau o faen iasbis hyd at 37 metr (40 llath) o led ar waelod Mynydd Carreg. Mae maen iasbis hefyd yn dod i’r brig ar y clogwyni môr gerllaw. Yn ôl y sôn yn 1904 y cafodd y chwarel ei hagor. Ychydig iawn o wybodaeth sydd am y chwarelydda yma ond mae’r olion yn amlwg ar yr arfordir rhwng Porthor (SH16682996) a Phorth Orion (SH15602880). Ar odre Mynydd Carreg (SH 16102905), ger Porthorion bu cryn gloddio yn gynnar 20fedG. Craig fetamorffig yw maen iasbis a ffurfiwyd ar ddiwedd y cyfnod Neoproterosöig Cyn-Gambriaidd, rhwng 1,000 miliwn a 541 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Chwarel Iasbis, Carreg
Chwarel Iasbis, Carreg

Roedd Iasbis yn fwyn gwerthfawr a’r pryd hynny roedd darn dwy fodfedd giwb ohono’n werth £60. Câi ei ddefnyddio i ychwanegu at wychder adeiladau dinasoedd mawrion, megis Cadeirlan Westminster a Phalas St James yn Llundain. Cafodd Iasbis ei gloddio ar Fynydd Carreg, ger Porthorion ac yn Llanllawen, Uwchmynydd.

Rhyw 1km oddi yno mae Pont Nant y Widdan ac wrth fynd â darn anferth o iasbis drosti dymchwelodd y bont. Ai llun o’r llwyth hwnnw gafodd ei dynnu wedi iddo gyrraedd Pwllheli ar wagan yn cael ei thynnu gan dracsion.

Iasbis ar y Maes Pwllheli
Tracsion gwaith Iasbis Carreg Plas, Aberdaron wedi cyrraedd Y Maes Pwllheli gyda maen iasbis i’w anfon i ffwrdd a tren. Thomas Jones ‘Ship’ Aberdaron oedd y gyrrwr (tad Thomas Glyn).

5 Dinas Mawr a Dinas Bach – Mae’r enwau’n awgrymu y gallai fod caer yma ganrifoedd lawer yn ôl. Bellach mae’n lleoliad poblogaidd ymhlith pysgotwyr ac mae crancod yn cysgodi yn y tyllau niferus yn y creigiau. Yn Ninas Fawr ceir y tyllau canlynol: Tyllau Gwmanog, Tyllau Plu’r Geunydd a Thyllau Trwyn Tywod, ac ar Ddinas Bach: Twll Richard Ty’n Ffynnon, Twll Dyfn, Tyllau’r Ebolion, Pwll Ithel a Charreg Felys.

Dinas Mawr a Dinas Bach
Dinas Mawr a Dinas Bach

6 Capel Carmel – (SH 16252 28385) – Dywedir bod Capel y Bedyddwyr yn dyddio o c1810 neu 1818 ond heb ei nodi ar Fap Degwm 1844. Eithriadol o fach gyda’r golau mewnol gwreiddiol. Y mae y Capel a’r Plas, y tŷ capel, yn un rhes, a’r ddwy ran o’r un maint yn fras, gyda’r Nenfwd estyllog, c1915.

Capel Carmel

Plas Carmel -(SH 16252 28385) – Dyma brosiect cymunedol sydd am adfywio’r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas, i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Mae yna gaffi ardderchog yno, ychydig oddi ar lwybr yr arfordir. Y nod yw gwneud defnydd sensitif o’r capel, tŷ, siop a’r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy a gweld bywyd unwaith eto yn y ‘capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad Llŷn’ a welodd Cynan.

Mae’n anhygoel bod cymaint o gyfoeth hanesyddol a diwylliannol amrywiol yn perthyn i filltir sgwâr Plas Carmel. Y weledigaeth yw i gasglu a gwarchod y storiau hyn a’u pasio nhw ymlaen i’r cenedlaethau ifanc, tra’n gwneud lle i rhai newydd. Yma, bydd pontio gwerth canrifoedd o hanes a straeon lleol gyda’n byd ni heddiw, a’r rheiny yn rhan annatod o fywydau’r trigolion lleol. O lwybrau’r Seintiau a’r Pererinion i lwybrau Dic Aberdaron, dewch ar daith i Blas Carmel, ble mae tirwedd a daeareg yn cwrdd â hud a chwedlau lleol. Y gobaith ydi y bydd straeon Plas Carmel yn aros efo chi am amser hir, os nad am byth. Mwy…

Plas Carmel
Plas Carmel

7 Mynydd Mawr a Mynydd Gwyddel – Dyma’r ‘mynyddoedd’ yn mhen eithaf Llŷn gyda Ogof y Gath yn rhedeg rhyngddynt i lawr i Swnt Enlli. Yno yn y creigiau mae Ffynnon Fair, yn enwog o Oes y Seintiau, ac yn hynod am fod dwr croyw ynddi er fod yn môr yn golchi drosti ar lanw. Ar y gwastad lle mae’r llwybr yn cychwyn i lawr i’r ffynnon mae olion petryal Capel Mair. Ceir y cofnod cynharaf ohono dyddiedig 1748 ar fap gan Lewis Morris.

Mae ffordd goncrit a godwyd amser yr Ail Ryfel Byd yn rhedeg i gopa Mynydd Mawr. Ar y copa ceir arddangosfa gan yr Ymddirieolaeth Genedlaethol. Mae’r gerdd olaf gyfansoddodd Cynan wedi ei lleoli ar Fynydd Mawr a cheir disgrifiad hudolus o’r golygfeydd ac yn arbennig sancteiddrwydd Ynys Enlli. Dyma’r fan gorau i weld Enlli.

Enlli o Mynydd Mawr
Enlli o Mynydd Mawr

8 Parwyd – Dyma ran o’r arfordir gyda’r gelltydd serthaf yn Llŷn. Rydym yn fwy cyfarwydd â’r enw yn ei ffurf luosog, parwydydd, ond a ddefnyddir yn gyffredin yma ac ar Drwyn Cilan am graig serth iawn. Yn 1794 priodwyd dau o’r ardal ac aethant i fyw Dŷ’n Lôn, Uwchmynydd, gerllaw’r Parwyd. Ymhen rhai blynyddoedd blinwyd hwy gan ddrychiolaeth, ond pan ddarllenid darn o’r Ysgrythur byddai’r ddrychiolaeth yn cilio i gyfeiriad y Parwyd ac yno y byddai’n hofran cyn diflannu. Canlyniad hyn fu i’r pâr ifanc ymadael a mynd i fyw i Rhwng Ddwyborth, plwyf Bodferin.

Yn yr ardal, yn 1801, gollyngwyd peilot o long ar greigiau Grepach. Roedd yn feddw iawn ond rhywsut llwyddodd i gyrraedd pen y clogwyn a mynd i gysgodi mewn corlan ddefaid. Yn y bore bach, a hynny cyn sobri, ceisiodd anelu am ei gartref ond aeth i’r cyfeiriad anghywir a diflannodd dros y dibyn ac i’r môr. Dywed Myrddin Fardd mai’r enw addas ar y fan hon yn ei amser ef oedd Pared Gallt Uffern ‘am ei bod megys yn erchwyn i’r cyfyngfor tonog ac enbydus y sy rhyngddi ag Ynys Enlli’

9 Aberdaron – Mae Aberdaron yn bentref deniadol gyda’i draeth, ei dai bwyta, ei siopau cynnyrch lleol a’i dai a phontydd llawn cymeriad. Mae’n werth galw ym Mecws Islyn, gyda’i do gwellt, nid yn unig am fara a danteithion cartref, ond i fwynhau’r lluniau a’r mapiau a’r darnau o dreftadaeth sy’n addurno waliau’r caffi. Adeilad hynafol a diddorol yw’r Gegin Fawr, hen dafarn y pererinion. Mae Aberdaron yn bentref hynafol a hanesyddol. Er hynny, mae’n dal yn bentref bach. Mae’r ffyrdd yn dal yn gul a throellog ac mae’r ddwy bont gerrig, Pont Fawr a Phont Fach, a adeiladwyd ym 1823 yn gyfyng iawn. Yr ochr draw i’r pontydd mae’r ffordd yn lledu ychydig i ffurfio sgwâr marchnad. Ym 1773, disgrifiodd Pennant Aberdaron fel pentref tlawd ym mhen draw sir Gaernarfon. mae yna nifer o achosion smyglo ar hyd arfordir Llŷn, dyma un enghraifft – 1808 – Daliwyd lygar yn Aberdaron am smyglo halen. mwy….

Aberdaron
Aberdaron

10 Porth Ysgo – Porth Ysgo sy’n dilyn gyda’i olion diwydiannol, dieithr i Lŷn. Bu cryn fri yma yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan allforid y manganîs a gloddid o’r gelltydd cyfagos. Mae sôn fod y Rhufeiniaid wedi bod yn cloddio yma ganrifoedd ynghynt, gan ddefnyddio’r mwyn i lifo dillad. Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ailddechreuwyd cloddio ym Mynydd y Rhiw ac i lawr Nant y Gadwen i gyfeiriad Porth Ysgo.
Câi’r mango o’r Rhiw ei gario mewn troliau at ffrwd lle byddai’r gwragedd yn ei olchi. Yna eid ag ef mewn ceir llusg i Borth Neigwl i’w lwytho ar longau. Pan sylweddolwyd fod galw am y mango, rhedwyd weiar-rôp i lawr i lanfa a godwyd wrth ymyl y Graig Ddu, o dan y Garth ym Mhorth Neigwl. Yn ystod gaeaf 1910-11 dinistriwyd y lanfa ac ni atgyweiriwyd hi wedyn. Codwyd glanfa ym Mhorth Ysgo hefyd a rhedwyd rheilffordd i lawr ati o Fynydd y Rhiw. Yn nechrau’r ganrif roedd ardal y Rhiw yn cynhyrchu 90% o fanganîs gwledydd Prydain, gan gyflogi hyd at ddau gant o weithwyr. Bu unwaith fwriad i ymestyn y rheilffordd o Bwllheli i’r Rhiw, ond ni pharhaodd y bri.

'Winch' Nant Gadlan, Porth Ysgo
‘Winch’ Nant Gadlan, Porth Ysgo

Ailagorwyd y mwynfeydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd i’w cau’n derfynol ym mis Rhagfyr 1945. Ym Mhorth Ysgo mae craig yn dwyn yr enw Carreg y Ring oherwydd fod arni hithau, fel aml un arall, ddolen i glymu llongau wrthi. Mae Pistyll y Gaseg yn rhaeadru i lawr o ben yr allt i draeth caregog tawel. Ceir Pwll y Gaseg yma hefyd yn yr un rhan o’r traeth. Ym mhen dwyreiniol Porth Ysgo ceir Porth Alwm – Porth Alm ar lafar – ac i’r lle hwn y rhed Nant y Gadwen. Gwelir trwyn bychan ar y map yn gwahanu Porth Alm oddi wrth Borth Ysgo. Dyma’r Trwyn Coch. Yng nghwr dwyreiniol Porth Ysgo ceir Carreg Oswald.

11 Plas yn Rhiw – Cyflwynwyd hen blasty Plas yn Rhiw i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan y chwiorydd Keating. Er mai perthyn i’r 17eg ganrif y mae’r adeilad presennol, fe’i codwyd ar safle hen lys oedd yn eiddo i frenin Gwynedd yn y 9fed ganrif. John Lewis oedd yn byw yn yr adeilad yn yr 17eg ganrif, yr oedd ei deulu yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif ac roedd y teulu wedi bod yn y Rhiw ers cyfnod y Tuduriaid. Daeth y tŷ i lawr trwy’r teulu i Jane Lewis, a briododd William Williams, perchennog Plas yn Rhiw, yn 1811. Priododd eu merch y Capten Lewis Moore Bennet, ac mae’n debyg mai’r briodas hon wnaeth ei arwain at addasu ac ehangu’r tŷ yn 1820.

Ychwanegwyd adain y gegin i’r gogledd yng nghanol y 19eg ganrif a pharhaodd yr ystâd yn nwylo’r teulu hyd 1874, pan brynwyd hi gan Thomas Roberts ac y gosodwyd y lle i gyfres o denantiaid. Yn eu plith roedd yr Arglwyddes Strickland ac efallai mai hi wnaeth osod yr ardd. Yn ddiweddarach aeth Plas yn Rhiw i fab Mr Roberts ac yna fe’i gadawyd yn y pen draw.

Yn 1939 prynodd y chwiorydd Keating Plas yn Rhiw. Tair chwaer ddibriod oedd Eileen, Lorna a Honora o Nottingham yn wreiddiol, ac yn 1939 daethant hwy â’u mam Constance, i fyw ym Mhlas yn Rhiw. Trwy eu hymdrechion brwd fe wnaethant adfer yr adeilad yn raddol, a oedd mewn cyflwr difrifol, ail-greu’r ardd, ac ymdrechu’n ddiflino i ddiogelu’r amgylchedd. Roedd y chwiorydd yn gefnogwyr taer i Gyngor Diogelu Cymru Wledig a sefydliadau cadwraeth. Fe wnaethant ymgyrchu’n llafar yn erbyn rhai cynigion; yn arbennig yn erbyn adeiladu gorsaf bŵer niwclear yn Edern.

Yn ogystal â’r plasdy ei hun a’i nodweddion pensaernïol diddorol, mae’r ardd organig yn nodedig gan fod yma lecyn cysgodol a chasgliadau o blanhigion prin. Mwy…

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

Wedi mynd heibio i Borth Colmon byddwch yn gadael yr arfordir am ychydig cyn ailgyfarfod y môr wrth Borthor. Wrth fynd o amgylch trwyn y penrhyn byddwch yn llygad y gwynt a dengys y creigiau serth a chaled mai’r tonnau gwyllt sydd yn llunio’r tirwedd hwn. Y graig a’r gwynt sy’n gyfrifol hefyd am rosydd bendigedig y bryniau sy’n britho’r trwyn. Ymysg y cyfoeth grug ac eithin, sydd wedi cael ei siapio ar ffurf tonnog gan y gwynt, mae planhigion megis clustog fair a theim gwyllt yn dibynnu ar y pridd sur am
gynhaliaeth.
Ar y clogwyni eu hunain mae’r cyfle gorau i fywyd gwyllt difyr a phrin ymgartrefu. Dyma yw cadarnle arwyddlun Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Pen Llŷn sef y fran goesgoch â adnabyddir o’i chri groch a’i phig a choesau coch. Yn y gwanwyn a’r haf, pan fydd y gwynt wedi gostegu rydych yn debyg o glywed galwadau’r llurs, y gwylog a’r amryw wylanod yn paru a magu cywion ar silffoedd y graig.
Mae’r llu cen, gwymonau amrywiol, sbwngau, llygaid maharen a gwichiaid sydd yng nghlwm wrth y creigiau isaf yn byw o fewn cyrraedd y llanw neu’r tonnau.
Maent wedi ymgartrefu hefyd ar arfordir greigiog Ynys Enlli sydd i’w gweld yn glir o’r tir mawr. Ar ôl gadael Uwchmynydd byddwch yn troi tua’r dwyrain, gan ddod yn gyntaf i bentref tawel Aberdaron cyn dringo’n raddol tuag at Y Rhiw.


Cylchdeithiau eraill ar y map yma

A-Llangwnnadl , B- Anelog , C-Parwyd , D-Daron , E_Penarfynydd

Yn ôl i dudalen Llwybrau Llinynnol Llŷn


Porth Colmon – Porth y Wrach
Porthor i Aberdaron
Aberdaron – Plas yn Rhiw