Mae’r llwybr hwn yn mynd a’r cerddwr ar daith 16.46km o Ian i Ian ar draws Penrhyn Llŷn. Mae’n llwybr ar hyd y penrhyn y gellir ei gerdded o Nefyn i Abersoch neu’r ffordd arall. Mae’r llwybr hwn yn mynd a chi naill ai drwy neu heibio ardaloedd o gynefinoedd naturiol sydd yn Llŷn, o bentiroedd yr arfordir trwy rostiroedd, dyffrynnoedd coediog a’r grug ar gopaon y mynyddoedd Cyn-gambriaidd. Yn ôl y disgwyl, mewn ardal lle mae un o ieithoedd brodorol hynaf Ewrop yn parhau yn iaith fyw, mae’r tirwedd Celtaidd yma wedi ei wasgaru gyda henebion ac aneddiadau o’r cyfnod cynhanes hyd at y cyfnod anghydffurfiol cymharol ddiweddar. Mae’r enw Llwybr y Morwyr wedi tarddu o’r hen lwybrau ar draws y penrhyn a gerddwyd gan y morwyr yn y 19eg ganrif.
MANYLION Y DAITH
Amcan o hyd: 16.46 km/10.3 milltir.
Amcan o’r amser: 5 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Gellir ei gerdded o Nefyn i Abersoch neu’r ffordd arall.
Pethau i weld ar y daith
1 Garn Boduan – Ar ben Garn Boduan mae llwyfan creigiog o dir tua 250m uwchlaŵr môr ac arno fryngaer fawr o Oes yr Haearn sydd tua 10 hectar o faint. Ynddi mae olion tua 170 o gytiau cerrig crynion, yn amrywio rhwng 5.2m a 7.3 metr ar draws.
Mae Garn Boduan yn fynydd amlwg iawn uwchben bwrdeistref ganoloesol Nefyn, 1km oddi yno, a chaer bentir arfordirol ym Mhorth Dinllaen, tua 4km i ffwrdd. Yn ystod Oes y Tywysogion roedd Garn Boduan yn nhrefgordd gaeth Boduan.
Llwyfandir yw copa Garn Boduan. Mae tua 250m uwchlaw’r seilnod ordnans, ac mae ardal o tua 10ha wedi ei chau gan ragfur cerrig sy’n adfail erbyn hyn. Ar yr ochr orllewinol mae darn o graig yn codi uwchben y llwyfandir i 270m uwchlaw’r seilnod ordnans. Cofnodwyd tua 170 o sylfeini cerrig cytiau crwn, rhai ohonynt yn weddol fawr, â diamedr o tua 8m. Cynrychiolir trydydd is-gyfnod adeiladu, sy’n un pur wahanol, ar y darn creigiog sydd ar ochr ddwyreiniol y mynydd. Adeiladwyd ‘cadarnle’ cryf i gau ardal fechan 60m wrth 30m, â waliau 3.5m o drwch. Mae’r waliau’n gadarn ac mae ôl curo ar eu hochrau allanol. Un awgrym credadwy yw bod y ‘cadarnle’ yn cynrychioli cyfnod anheddu ac amddiffyn llawer diweddarach, yn ystod y canol oesoedd cynnar efallai. Mwy…..
2 Cors Geirch – Mae Cors Geirch yn rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig Corsydd Llŷn, ac yn safle gwlyptir Ramsar. Cors Geirch yw un o’r enghreifftiau gorau o’r math yma o gynefin ar dir mawr Cymru ar gyfer anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac mae’n cynnal nifer o rywogaethau a restrir yn y Llyfr Data Coch.
Mae britheg y gors, malwen droellog Geyer, malwen droellog Desmoulin, y pryf cacynaidd, gwalchwyfyn gwenynog ymyl gul, llygoden bengron y dwr Arvicola terrestris, y fronfraith Turdus philomelos a’r ehedydd Alauda arvensis i gyd yn rhywogaethau’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth sy’n bresennol ar safle Cors Geirch.
3 Maen Hir Meillionen, Boduan – Y maen hir ym Meillionen (SH 29633735, 40 N.W.,) ei ddrilio ar gyfer crogfachau ac mae’n debyg iddo gael ei godi yn ei sefyllfa bresennol yn yr oes fodern, i wasanaethu fel rhwbbost. Mwy…
4 Garn Fadryn – O gerdded i gopa Carn Fadryn, cewch eich gwobrwyo gan olygfeydd godidog o Benrhyn Llŷn, Bae Ceredigion a mynyddoedd Eryri. Mae’r mynydd yn frith o weddillion anheddau’r Oes Haearn o fryngaer helaeth wedi’i amgylchynu gan wal allanol. Mae gweddillion un o gestyll carreg hynaf Cymru’r oesoedd canol ar y copa. Nododd croniclydd y 12fed ganrif, Gerallt Gymro (1188), fod “dau gastell o garreg newydd eu codi: enw un yw Deudraith…y llall Carn Madryn”. Adeiladwyd y ddau yn y cyfnod terfysglyd a ddilynodd marwolaeth Owain Gwynedd ym 1170.
Mae’n ymddangos fod dau gyfnod i’r fryngaer – y cyfnod cyntaf yn amgau ardal oddeutu 4.8ha o faint ac wedi’i ddiffinio gan wal gerig adfeiliedig gyda mynedfeydd i’r gogledd a’r de. Yr ail gyfnod yn amgau ardal lawer mwy ac fe’i diffinnir gan furiau allanol sydd wedi cadw’n well, eto gyda mynedfeydd i’r gogledd a’r de.
Mae’r castell canoloesol yn coroni rhan uchaf y copa, gydag ymyl serth i’r gorllewin. Yma defnyddiwyd platfform cul o graig fel motte parod. Mae’n rhan o glwstwr bach o gestyll cynnar o gerrig a adeiladwyd yng Ngwynedd ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif. Ni adeiladwyd y rhain i wrthsefyll goresgyniad estron, ond yn hytrach roeddent yn fynegiant o bwer ac arglwyddiaeth Tywysog yn y cyfnod ansefydlog yn dilyn marwolaeth Owain Gwynedd ym 1170 a rhaniad dilynol y sir rhwng ei feibion.
Y prif fynydd yng nghanolbarth Llŷn, yn 371m (1217 tr.) o uchder a’r golygfeydd o’i gopa o Lŷn gyfan yn ysblennydd. Y term daearegol am fynydd fel hyn yw monadnock, sef mynydd yn sefyll fel ynys ar lwyfandir. Mae Moel Caerau i’r dwyrain yn 200m a Garn Bach i’r de-ddwyrain yn 280m
Mae posibilrwydd o weithgaredd cynnar ar gopa Carn Fadryn, sy’n cael ei gynrychioli gan garnedd a chistgladdiad ar y llwyfandir ac un palstaf o’r Oes Efydd a ddarganfuwyd gerllaw. Y dystiolaeth fwyaf gweladwy a dramatig o weithgaredd, fodd bynnag, yw’r amddiffynfeydd sydd wedi’u codi ar y mynydd hwn yn ystod nifer o gyfnodau gwahanol yn y gorffennol.
Mae’r amddiffynfa o’r is-gyfnod cyntaf ar y llwyfandir sydd rhwng tua 340m a 350m uwchlaw’r Seilnod Ordnans, ac mae’n cael ei diffinio gan ragfur o gerrig sychion, yn cau o amgylch arwynebedd o tua 5ha. Mae dwy fynedfa; y naill yn wal ogleddol y darn caeëdig, a’r llall yn y wal ddeheuol. Mae’r amddiffynfa o’r ail is-gyfnod ar ffurf estyniad o’r ardal gaeëdig i’r llethrau tua’r gogledd ac estyniad llai i’r de. Mae traciau sydd wedi eu diffinio’n dda yn arwain at y mynedfeydd, ac mae’n debygol iawn bod y rhain yn hynafol ac o’r un cyfnod â’r amddiffynfeydd. Ceir clystyrau o adeileddau crwn a phetryal yng nghanol padogau bychain yn erbyn y sgri a’r wal o graig sy’n codi ar ochr orllewinol y llwyfandir. Mae’r adeileddau hyn yn ddiweddarach na’r is-gyfnod cyntaf a gallent fod yn ddiweddarach na’r ail is-gyfnod. Mae tebygrwydd rhwng yr adeileddau hyn ac adeileddau’r is-gyfnod Brythonig-Rufeinig yn Nhre’r Ceiri.
Mae’r adeiladau crynion a elwir yn Cytiau Gwyddelod yn amlwg a cheir olion y muriau amddiffynnol. Mae yma hefyd olion castell o’r G12 a godwyd gan Owain Gwynedd. Mae’r wal, lle mae wedi goroesi, yn fertigol, ac mae awgrym bod iddi drwch dwbl mewn rhai mannau. Wal gerrig sychion ydyw. Ar ôl croesi’r Traeth Mawr o Ardudwy i Eifionydd ac ymlaen i Lŷn ym 1188, gwelodd Gerallt Gymro gastell cerrig o’r enw Karnmadrun a oedd wedi ei adeiladu yn ddiweddar ac a oedd yn eiddo i feibion Owain Gwynedd. Mae’n bosibl mai’r cadarnle waliau cerrig sychion ar y copa oedd hwn.
Ym 1812, caewyd 230ha (568 acer) o Garn Fadryn a Garn Bach drwy amgaead Seneddol. Roedd yr ardal dan sylw’n cynnwys y llwyfandir ar gopa Carn Fadryn yn ei gyfanrwydd a hanner gorllewinol copa Garn Bach. Caewyd llethrau gorllewinol a de-orllewinol y ddau fynydd yr un pryd. Y rhai a fanteisiodd fwyaf o ganlyniad i hyn oedd yr Arglwydd Newborough a William Harvey.
Ceir cyfeiriad hiraethus morwyn fach pan gyfeirir ato mewn hen bennill:
Mi af oddi yma i ben Garn Fadryn
I gael gwelad Eglwys Nefyn,
O amgylch hon mae plant yn chwara’
Lle dymunwn fy mod inna’.
Mae’r ardal yn wledig gyda’i thai ar wasgar ar odre deheuol mynydd Garn Fadryn Ganwyd Ieuan o Lŷn (John Henry Hughes) (1814 – 1903) yn Ty’n y Pwll. Cyhoeddwyd cyfrol o’i gerddi., ‘Caneuon Ieuan o Lŷn’ ond cofir amdano fel awdur dau emyn welir yn ‘Caneuon Ffydd’ – ‘Wele wrth y drws yn curo’ ac ‘O Iesu croeshoeliedig’
Cysylltir yr enw Garn Fadryn â Madren, wyres Gwrtheyrn Gwrtheneu a ddihangodd i Nant Gwrtheyrn, ac yn fam i Ceidio. Bu’n rhaid iddynt hwythau ddianc o Nant Gwrtheyrn i loches ar Garn Fadryn. Cysylltiad arall tebygol yw Garth Madryn yn ardal Talgarth ym Mrycheiniog. Dywed traddodiad iddi sefydlu’r eglwys yn Nhrawsfynydd – St. Madryn a’i mab roddod ei enw i blwyf Ceidio, sydd rhwng Garn Fadryn a Nefyn.
5 Maen Hir Saethon – Maen Hir Pandy Saethon, Nanhoron (SH 28803230)
6 Ffynnon Sarff – Ffynnon Sarff (SH 29503190) yn Nanhoron. Arferai neidr fyw yn hon.
7 Ffynnon Cybi Bach SH3048 3962 – Y mae yr enw yn amlwg o ryw hynafiaeth ; mae mapiau degwm y 1840au yn nodi enw’r cae lle mae’r ffynnon fel Cae Ffynnon Cybi. Mae’r ffynnon tua 8 milltir i’r gorllewin o Ffynnon Gybi (Llangybi). Yr awgrym yw bod yr enw yn weddillion o’r llwybr pererindod ar hyd arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn tuag at Enlli y mae cymaint o ffynhonnau’r arfordir hwn yn honni cysylltiad ag ef. Mae enw Cybi yn sicr yn gysylltiedig ymhellach i’r gorllewin ar hyd y llwybr gyda chreigiau yn y môr ger Aberdaron ac oddi ar arfordir Enlli ei hun â’r enw Carreg Gybi.