d/o Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn, Llangwnnadl.

07464 052992 post@crwydro.co.uk

Llwybr Nefyn – Llangwnnadl

Gwyliwch Aled Hughes (BBC radio Cymru) yn cerdded y daith yma.- Nefyn – Llangwnnadl

LLWYBR NEFYN – LLANGWNNADL MANYLION Y DAITH

Amcan o’r hyd: 19.2km/ 12 milltir.
Amcan o’r amser: 6 awr.
Map AO: graddfa 1:25 000 Explorer 253.
Man cychwyn/gorffen: Penllech (SH 205346) / Nefyn (SH307405)


1 Nefyn – Saif y dref ar dir eithaf gwastad, tua 100 troedfedd uwch lefel y môr a  chwarter milltir, yn fras, i’r tir o’r clogwyni clai sy’n edrych dros y bae cysgodol a ffurfia harbwr naturiol Porth Nefyn. Mae’r adeiladu wedi ymestyn ar hyd yr arfordir erbyn heddiw ond pery’r rhan fwyaf o’r ardal yn borfa iseldirol o hyd ag eithrio’r de ddwyrain, lle saif Garn Boduan a’r mynyddoedd cyfagos yn gefn cadarn iddi.

Tywysogion Gwynedd – Tardda’r fwrdeistref o’r hon a gyfrifir yn un o faenordai mwyaf tywysogion Gwynedd yn hwyr yn y 12fed ganrif  neu’n gynnar yn y 13eg. Mae cofnod o waith ar adeiladau maenorol yn 1306-7. Adlewyrchir pwysigrywdd y faenor, yn y gorffennol, yn enwau’r strydoedd  megis, Stryd y Plas, Bryn Mynach. Nefyn oedd canolfan yr hen gwmwd Dinllaen.

Edward 1 – Cafodd Nefyn ymweliad gan Edward I yn 1284, a chynhaliwyd ‘Bwrdd Crwn’ neu dwrnamaint yno i ddathlu ei goncwest dros Wynedd. Casgliad o gaeau yn ymestyn oddi tan Ystâd Tai Iorwerth tua  Capel Seion (tua 300 mtr o’r gogledd – de wrth 80, gyda llethr serth ar y Gorllewin (SH30774027) yw Cae Iorwerth. Derbynir yn lleol mai yno y cynhaliwyd y twrnamaint. Yn y Tithe Award Schedule 1838-42 ffurfia’r caeau yma ran o ardal fwy o’r enw Cae Thomas lle roedd rhafflan a allai fod yn achos lefelu artiffisial. Yn 1833 rhoddwyd i’w leoliad tybiedig glawdd cylchog ger lôn Edern, ond nid oes unrhyw awgrym o’i fodolaeth.

Siarter Frenhinol – Derbyniodd Nefyn siarter frenhinol yn 1355 gan y Tywysog Du, a bu’n ganolfan bwysicaf Llŷn gyda’i masnach bysgod a phwysigrwydd mawr ei chysylltiadau morol. Daethai’r llyngesau o gychod bach â chymaint o benwaig i Nefyn ar un cyfnod nes y bu’n rhaid eu taflu ar y tir fel gwrtaith; a dim rhyfedd felly i’r penwaig ddod yn rhan o arfbais Nefyn. Gwerthid y pysgod mewn trioedd “mwrw”, a dyna pam mai tri pennog sydd ar yr arfbais. Cyfeiria trigolion Pen Llŷn at bobl Nefyn fel Penwaig hyd heddiw.

Eglwys Santes Fair – Siâp llong sydd i’r ceiliog gwynt sy’n eistedd ar ben Eglwys y Santes Fair (bellach yn amgueddfa forwrol), gan ddangos eto bwysigrwydd y môr mewn cyfnod diweddarach, fel y gwna llawer o enwau’r tai a’r lleoedd. Y môr oedd y ffordd rwyddaf o gludo pethau i Lŷn a’u cludo oddi yma hyd nes y daeth y rheilffordd i Bwllheli ac y gwellodd cyflwr y ffyrdd.

Y Tŵr – Mae cofnod o waith ar adeiladau maenorol o 1306-7. Ond yr unig adeilad sydd wedi goroesi o’r cyfnod cyn y 18fed ganrif yw mwnt difrodedig ‘Y Tŵr’. Ni ddengys cynllun y dref unrhyw arwydd o gysondeb o ran patrwm a gysylltir gyda bwrdeistrefi Edwardaidd fel Conwy neu Gaernarfon, a does dim prawf iddi gael ei hatgyfnerthu chwaith. Y mae’r Tŵr ( ar ben mwnt) a pharhaodd ei sylfaen yn solad tan yn eithaf diweddar. Ceir mynediad i’w ben drwy esgyn grisiau allanol. Nid oes sicrwydd ynglŷn ag oedran yr adeilad, ond mae’n debyg iddo gael ei adeiladu yn sgil y bysgodfa benwaig a ffynnai yn gynnar yn y 19eg ganrif.

Mae yn y dref sawl tŷ bychan nodweddiadol o’r 18fed ganrif ond ni ellir dyddio’r un ohonynt, â sicrwydd, i gyfnod cyn 1750.  Mae’r Mwnt  ar ochr ogledd-orllewinol y dref. Yma mae gweddillion dadfeiliedig tomen grwm oedd yn wreiddiol tua 10 troedfedd o uchder a 40 troedfedd ar draws. Mae’r ochr ogleddol wedi ei therasu a’i rhagfurio gyda wal fodern ac adeiladau’n gorgyffwrdd ar yr ochr ddeheuol, sydd wedi ei thorri ymaith yn rhannol. Y tŵr sy’n coroni’r copa. Ni pharodd dim a allai ddangos fod beili wedi bod yno erioed.

Cau Tiroedd – Mae plwyf Nefyn yn cydffinio gyda’r hen fwrdeistref a ddaeth i ben yn 1882 a’i hanes yn debyg i hanes bwrdeistref Pwllheli. Cyflwynwyd corfforaeth Nefyn a Phwllheli i rinweddau y deddfau cau tiroedd gan Mr. Richard Ellis. Pa mor anghyfarwydd bynnag ag yr oedd Ellis â’r gyfraith, gwnaeth iawn am hynny drwy ei ddawn gynhenid o herio corfforaeth fwy di-ddeall nag yntau. Ei dad, neu Ellis ei hun a ddarbwyllodd stiwardiaid ‘Nevin’ i ymddihatru eu hunain oddi wrth eu hawliau i dri neu bedwar can acer o dir cyhoeddus (tir a ddefnyddid gan amlaf gan y trigolion ar gyfer eu defaid ) dan yr argraff eu bod yn cytuno i indentur prentisiaeth. Ym Mhwllheli derbyniodd y gorfforaeth ychydig o latheni sgwâr o graig foel yn gyfnewid am dir oedd yn werth tua £500 y flwyddyn. Dywedodd Ellis wrth Gomisiynwyr y Corfforaethau Trefol, yn gyntaf na wrthwynebodd sywddogion y fwrdeistref, ac yn ail fod eu gwrthwynebiad yn anghymwys ac wedi ei gwrthod.

Nevin Inclosure
Nevin Inclosure

Carreg Arysgrifiedig Tŷn-y-cae – Carreg â chroes, Tŷn-y-cae. Defnyddir y garreg fel lintel i feudy erbyn hyn, ond cyn tua 1860 safai ar godiad bychan, lle canfyddwyd esgyrn, ar ffin blwyfol mewn cae o’r enw Cae Pen-y-maen. Roedd y groes yn wynebu’r môr. Darn o graig igneaidd yw hi, â’i hwyneb arysgrifedig yn 140cm o hyd wrth 36cm o led. Ond mae rhan o’r ymyl wedi ei naddu. Croes o’r 7ed ganrif ydi hi, mae’n debyg, gyda breichiau yn ymestyn wedi ei hendorri arni. Mae ei huchder yn 44cm a’i thrwch gwreiddiol yn 23cm.

Cytiau a sustemau caeau – Dengys y caeau modern rhwng Cerniogell (SH 32453993, 32 S.W) a Cerniog Fawr (SH 32704030) olion terasu dros ardal 600 llath yn y de orllewin, rhwng y cyfuchlinau 500 troedfedd a 600 troedfedd, gogledd ddwyrain wrth 200 llath. Yn eu canol (SH32624018) y mae ardal anesmwyth a allai fod yn safle grŵp o gytiau amgaeedig. Gwelir mwy o derasu tua’r gogledd ddwyrain, ym mhlwyf Pistyll.

Pwll William – Mae Pwll William hanner ffordd rhwng penrhyn Nefyn a Morfa Nefyn. Lon Penrallt yw’r ffordd sy’n rhedeg gyda’r arfordir. Yma ym Mhwll William neu Penrallt arferai plant a chyn gapteiniaid llongau ddwad i chwarae a hwylio cychod model ac adrodd a gwrando ar y straeon am y gwledydd pell a’r dyddiau a fu.

Mae cyfeiriad at Bwll Penrallt a Mynydd Nefyd yng ngeiriau enwog Y Sgwner Tri Mast, un o ganeuon môr J Glyn Davies. Mwy…

Pwll William
Pwll William

2 Morfa Nefyn Smyglwyr Tŷ Newydd – Roedd Porthdinllaen yng nghanol y busnes smyglo yn yr 17eg a’r 18fed ganrif. Un o smyglwr enwocaf dechrau’r 19eg ganrif oedd Boaz Pritchard o Gaernarfon a’i ddiod feddwol ‘Brandi Boaz’. Ar un adeg, meddiannodd yr awdurdodau’r brandi a’i storio yn atig Tŷ Newydd, y tollty, ar draeth Bwlch Bridin, Morfa Nefyn.

Bwlch Bridin
Bwlch Bridin

Nid oedd hwn yn achos ar ei ben ei hun o smyglo, yn wir roedd yna fôr-ladron a ‘privateers’ yn gweithredu ar hyd yr arfordir. Dyma rai enghreifftiau o smyglo yr adroddwyd amdanynt ym mhorth Dinllaen – 1763 – Smyglwyd rym i Borthdinllaen oddi ar “cutter”. (Cwch bach un Hwylbren), 1785 – Aeth llong smyglo ar y creigiau ym Mhorthdinllaen a chafodd ei dal gan swyddogion y tollau. 1786 – Daliwyd cwch ym Mhorthdinllaen ar ôl iddo fod mewn cysylltiad â lugger smyglo. Hwyliwyd cwch arall o Borthdinllaen i angorfa ddiogel oddi ar Enlli. 1791 – Gwelwyd llong smyglo ynghyd â ‘privateer’ Ffrengig oddi ar Borthdinllaen. 1791 – Dwynwyd llong y dynion tollau o Borthdinllaen gan long smyglo. a.y.y.b.  Mwy….Llinell amser morwrol Llŷn

Gwaith Brics – Ym 1868, sefydlwyd gwaith brics enwog ym Morfa Nefyn gan y Capten David Hughes, Siop Groesffordd a John Roberts, Cefn Edern. Roedd ganddo simnai uchel a glanfa ar y traeth. Daeth y gwaith cynhyrchu i ben ym 1906 ac erbyn hyn mae’r safle’n faes parcio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thai.

Gwaith Brics Bwlch Bridin
Gwaith Brics Bwlch Bridin

Pen Cim a Warws Dora – Mae Warws Dora ym Mhen Cim, y pentir bychan sy’n gwahanu bae Morfa Nefyn a bae Porthdinllaen. Roedd hwn yn un o’r prif warysau i storio nwyddau oedd wedi eu mewnforio a’u dadlwytho. Daeth llongau arfordirol, sloops bach a sgwneri yma gyda phob math o nwyddau o Lerpwl ac ymhellach, i bentrefi a ffermydd Llŷn.

Warws Dora, Pen Cim
Warws Dora, Pen Cim

Daeth grawn a bwydydd, tecstilau a llestri i mewn i’w dosbarthu i’r degau o siopau bach a oedd yn britho’r penrhyn. O droad y ganrif hyd y rhyfel byd cyntaf, roedd agerlongau o’r Barmouth Steamship Co. yn galw yma, un oedd y ‘Telephone’ ac yna’n ddiweddarach y ‘Dora’.

S.S. Dora
S.S. Dora

Whitehall Porthdinllaen – Ar ddechrau’r 19eg ganrif cyflwynwyd cynllun a chynnig i adeiladu ffordd newydd ar draws Llŷn o Feirionnydd a’r Traeth Mawr i Borthdinllaen, er mwyn sefydlu porthladd, fel cystadleuaeth i Gaergybi, neu fel dewis arall yn lle Caergybi, a chludo teithwyr dros Fôr Iwerddon i Ddulyn. Y bwriad oedd adeiladu porthladd newydd a phier. Y dyn y tu ôl i’r fenter  oedd William Madocks, a gafodd Ddeddf Seneddol ym 1806 i ddechrau datblygu’r porthladd ym Mhorthdinllaen; ac yn 1807 i amgáu a draenio’r Traeth Mawr, adeiladu ffordd dros y morglawdd, neu’r cob, a chreu harbwr ym Mhorthmadog maes o law, wedi’i enwi ar ei ôl.

Whitehall, Porthdinllaen
Whitehall, Porthdinllaen

Roedd llond dwrn o adeiladau wedi bod ar y glannau yng nghysgod y pentir ers y 18fed ganrif o leiaf, gan gynnwys y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu llongau lleol, a physgota, y tollty a’r cytiau cychod. Roedd tair tafarn ar y draethlin yn y 19eg ganrif, sef Tŷ Coch, Tan yr Allt a’r White Hall yn dilyn cynlluniau Madocks.

3 Porthdinllaen – Enw hen gwmwd yn Llŷn yw Dinllaen. Mae porthladd a bae Porth Dinllaen yn un o lecynnau harddaf Cymru. Bu’n harbwr diogel i longau yn yr hen ddyddiau a chafodd ei ystyried fel lleoliad ar gyfer prif borthladd i Iwerddon yn nechrau’r 19eg ganrif, cyn codi pontydd Menai. Mae nifer o bysgotwyr yn gwneud bywoliaeth yn y borth o hyd. Credir fod yr enw Llŷn [Lleyn] yn tarddu o enw un o’r llwythau Celtaidd o gwmpas Leinster yn Iwerddon a sefydlodd ar lannau gogleddol Llŷn mewn aneddiadau megis Castell Odo, a chaerau pentiroedd  arforol megis Porth Iago a Phorth Dinllaen. A dyna ni ystyr yr enw Porthdinllaen: Porth caer y dynion o Leinster: gyda  din yn hen enw Brythoneg am amddiffynfa ( fel Caeredin yn yr Alban).

Caer Bentir Dinllaen (SH 275416) -Yn ystod y cyfnod cynhanes,  amddiffynnid pentir Porth Dinllaen gan ddau glawdd pridd a oedd yn croesi yn y rhan gulaf bron o’r pentir, tua hanner ffordd ar ei hyd, ac mewn man lle’r oedd y tir yn gostwng ychydig cyn codi eto tuag at y rhan o’r culdir sy’n nes at y môr. Roedd yr amddiffynfa ar y pentir yn cynnwys cyfuniad o ragfuriau wedi eu codi gan ddyn ac amddiffynfeydd naturiol y môr a’i elltydd. Mae olion y mur amddiffynnol i’w  weld yn glir ar ochor chwith y lôn sydd yn rhedeg i lawr i’r borth o wastatir y penrhyn.

Yn ystod wythnosau olaf Hydref a dechrau Tachwedd 2011 aethpwyd ati i gynnal prosiect archeolegol cymunedol yn Ninas Dinllaen, caer bentirol o Oes yr Haearn ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Bellach mae’r safle yn ffurfio rhan o glwb golff Nefyn a’r cyffiniau ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Mae’r pentir ble mae’r safle yn cael ei erydu ac ers rhai blynyddoedd mae hyn wedi dechrau difrodi’r archeoleg.

Cloddio caer bentir arforol Dinllaen
Cloddio caer bentir arforol Dinllaen

Mae dwy ffos a thri clawdd wedi eu lleoli ar y tamaid culaf o’r pentir sy’n amgáu ardal o bedair acer ar ddeg trwy gyfuniad o glogwyni serth a chreigiog. Y mae’r ardal hon wedi ei gorchuddio mewn mannau gan haenau trwchus o luwchfeydd rhewlifol, sef y deunydd a adawyd, ar ôl wrth i’r rhewlifau ddadmer. Archwiliwyd y ffosydd a’r cloddiau allanol trwy gloddio ond nid y clawdd mewnol; cafodd pedair ffos eu cloddio i gyd, un ar draws pob nodwedd. Cafwyd llith o wybodaeth am ddatblygiad cronolegol yr amddiffynfeydd. Mae nifer o gyfnodau adeiladu wedi cael eu nodi ac maent yn berthnasol i gyfnodau pan fu ail-dyllu ar y ffosydd neu atgyfnerthu’r waliau.  Mwy…

Porth Dinllaen ai Gychod – Mae Porthdillaen yn un o’r porthladdoedd mwyaf cysgodol a diogel rhag unrhyw beth ar wahân i wynt y gogledd-ddwyrain. Masnachu arfordirol oedd y prif ddiwydiant ym Mhorthdinllaen am ganrifoedd. Roedd mordeithiau pell yn cludo penwaig a moch wedi eu halltu i Iwerddon, Caer a Lerpwl. Cyflwynwyd stêm yn yr 1830au a’r 40au ond llongau hwyliau a ddefnyddid fwyaf am y rhan helaethaf o weddill y ganrif. Roedd rhwng 700 a 900 o longau’n dod i’r bae bob blwyddyn yn ystod y cyfnod hwn.

Cychod Porthdinllaen
Cychod Porthdinllaen

Roedd llond dwrn o adeiladau wedi bod ar y glannau yng nghysgod y pentir ers o leiaf y 18fed ganrif, gan gynnwys y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu llongau lleol, a physgota, y tollty a’r cytiau cychod. Roedd tair tafarn ar y traeth yn y 19eg ganrif, sef Tŷ Coch, Tan yr Allt a’r White Hall yn dilyn cynlluniau Madocks. Ar ddechrau’r 19eg ganrif cyflwynwyd cynllun a chynnig i adeiladu ffordd newydd ar draws Llŷn, o Feirionnydd a’r Traeth Mawr i Borthdinllaen, gyda’r bwriad o sefydlu porthladd yno i gludo teithwyr dros Fôr Iwerddon i Ddulyn. Ond aflwyddiannus fu’r cais a Phorthladd Caergybi a enillodd y dydd.


Cwrs Golf – Mae’r cwrs golff ar benrhyn Porth Dinllaen . Cafodd Clwb Golff Nefyn a’r Cyffiniau ei sefydlu yn 1907 fel cwrs naw twll ac yna yn 1912 fe’i ehangwyd i gwrs 18 twll.  

Hen Clwb Golff Nefyn
Hen Clwb Golff Nefyn

Comisiynwyd dau o ddylunwyr gorau’r byd Golff J. H Taylor a James Braid yn 1933 i ychwanegu naw twll arall ac i ailwampio’r cwrs a fodolai’n barod. Mae’r modd y gosodwyd y cwrs  yn hynod o anarferol, erbyn heddiw, gan mai dim ond 26 twll sydd bellach yn cael eu chwarae.  Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddianwyd y cwrs fel tir amaethyddol. Collwyd y tŷ clwb gwreiddiol yn 1911. Mwy…

Bad Achub – Ym Mhorth Dinllaen y sefydlwyd y Bad Achub cyntaf yng Nghymru ac agorwyd adeilad newydd i gartrefu’r gwasanaeth yno. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd bron i fil o longau’n galw heibio’r bae yn flynyddol, amryw ohonynt yn cysgodi rhag stormydd Môr Iwerddon. Roedd hi’n anochel y byddai  damweiniau a llongddrylliadau yn digwydd yn gyson yno a chodwyd cwt i gwch achub yno yn 1864. Ailadeiladwyd y cwt cwch a’r llithrfa ym 1888. Ym 1925 aethpwyd ati i ymestyn y llithrfa a’r tŷ cwch ar gyfer bad achub newydd efo injan. Mae’r llithrfa yn un o’r rhai hiraf sy’n cael ei defnyddio.

Mae’r gwasanaeth wedi achub 400 o fywydau ers hynny. Y cwch presennol, y ‘John D Spicer’, yw’r 12fed i wasanaethu yma. Costiodd £2.7 miliwn. Cwch ‘ Tamar Class’ sydd yn Mhorthdinllaen heddiw. Cafodd Tamar Porthdinllaen ei ariannu gan gymynrodd hael y diweddar Mr John Dominic Spicer o Swydd Rhydychen a fu farw ar y 7fed o Hydref 2010. Ar gais yr ysgutorion enwyd bad achub yn RNLB John D Spicer. Angorwyd y bad achub, dros dro, tra roedd y gwaith o godi cwt newydd, ar y safle ym Morfa Nefyn, yn mynd rhagddo.

Mae gan y Tamar y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn ychwanegu at ei gallu i achub bywydau. O’i gymharu â bad o’r dosbarth Tyne mae’r Tamar yn fwy- 16 metr yn hytrach nac 14- ac mae’r amser ymateb yn gynt gyda chyflymder o 25 yn hytrach na 17 not.

Costiodd y cwt newydd i’r bad achub £8.2 miliwn.  Mwy…
Mae pentref Porth Dinllaen bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fuddsoddodd yn helaeth yn harddwch y llecyn rai blynyddoedd yn ôl trwy dynnu’r gwifrau trydan i lawr a’u lleoli o dan y ddaear.

Bad Achyb Porthdinllaen
Cwt Newydd Bad Achub Porthdinllaen

Tŷ Coch – Atyniad poblogaidd ar y traeth yw tafarn y Tŷ Coch. Adeiladwyd y Tŷ Coch allan brics coch a defnyddiwyd fel balast i longau oedd yn hwylio o’r iseldiroedd yn 1823. Roedd y dafarn hon ymhlith y  dair flaenaf pan bleidleiswyd am ‘Dafarn Draeth Orau’r Byd’ ym mhapur newydd y Guardian yn 2014. Yma yn y Tŷ Coch y bu Mrs Jones yn cadw ysgol forwrol tua 1880. Hi oedd yr unig wraig harbwr feistr yn Ynysoedd Prydain yn y 1920au, a bu fyw i fod yn 98 oed.

Jane Jones Tŷ Coch
Jane Jones Tŷ Coch

Am bum mlynedd gyntaf ei oes bu’n ficerdy ficer Edern. Ym 1828 codwyd ficerdy drws nesaf i’r eglwys ac yn y diwedd daeth Tŷ Coch i ben fel yr ail ficerdy wrth i’r ficer y Parch. John Parry Jones Parry symud allan yn gyfan gwbl gan adael ei wraig cadw tŷ, Catherine Ellis i agor yr adeilad fel Tafarn ym 1842 i’w gyflenwi. lluniaeth i’r gweithlu adeiladu llongau oedd yn gweithio ar y traeth.

Roedd Tŷ Coch yn cystadlu, yn sicr gyda’r Whitehall Inn ac yn ôl y sôn ar un adeg, cyfanswm o bedair tafarn arall ar y traeth rhwng bwlch Bridin a porthdinllaen.

4 Abergeirch – O Aber Geirch (SH 26704045), y rhedai’r wifren deliffôn a gysylltai Iwerddon â gwledydd Prydain. Roedd yn wifren drwchus, tua 75mm o drwch yn gorwedd ar wely’r môr. Câi ei gwarchod gan filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’i defnyddio am flynyddoedd lawer wedyn nes y cafodd ei disodli gan ddulliau cyfathrebu gwell.

Cwt Telegraff Abergeirch
Cwt Telegraff Abergeirch
Cable telegraff i Iwerddon
Darn o ‘teleraph Cable’ Abergeirch i Iwerddon

Mae afon Geirch o Gors Geirch yn llifo trwy Nant y Gledrydd a phentref Edern, ac i’r môr yn Abergeirch.
Un o hoff lecynnau J. Glyn Davies oedd Aber Geirch:
‘At bwll y cefnro’n Abergeirch,
rhu’r môr ar glybod,
a’r tonnau’n hyrddio i mewn fel meirch,
– mil mwy i ddyfod.
Ond tawel iawn oedd bwthyn Sian
cyn mynd yn furddun
Hen Sian a’i hieir, cath, barcud, brân,
holl deulu’r llecyn.

Cors Geirch (SH308 382)– Gorwedd Cors Geirch i’r de-ddwyrain o Edern. Mae’r afon Geirch yn llifo drwy gors sy’n gynefin pwysig i rywogaethau prin o flodau a llystyfiant. Mae’n Warchodfa Natur ond gellir cael mynediad iddi wrth droi am Geidio oddi ar ffordd A497 Pwllheli/Nefyn.

5 Cwmistir – Cyprian 1881 – 0 dan dir Hirdre Fawr mae Porth a Chreigiau Rhosgor (Rhosogor ar fapiau) a ddaeth i enwogrwydd gyda thrychineb y “Cyprian”, llongddrylliad ag iddi’r hanes mwyaf gafaelgar o’r cyfan i gyd,’ Roedd agerlong y “Cyprian” ar daith o Lerpwl i Genoa gyda Ilwyth o gargo cymysg ym mis Hydref 1881.

Y Cyprian
Y Cyprian

Chwythodd gwynt gorllewinol hi oddi ar ei chwrs a gwelwyd hi gan bobl Nefyn a’r Morfa yn nesu at y lan. Gyrrwyd y llong fel tegan brau o’i chwrs ar greigiau LIŷn, Mor ddiymadferth a phetai Y gwynt a’r tonnau’n un. Dyna’r sefyllfa a wynebai griw bad achub Porthdinllaen pan benderfynwyd bod y storm yn rhy ffyrnig i hyd yn oed y gwyr dewr hynny fynd allan. Cafwyd cwyn yn erbyn y bad achub am nad aethant allan a chynhaliwyd ymholiad. Yr hyn a drodd y ddadl o blaid y bad achub oedd i ddeg o gapteiniaid lleol dystio fod y tywydd yn rhy arw i’w lansio.
Yn Rhosgor y daeth y “Cyprian” ar y creigiau a rhaid oedd i’r criw wneud eu gorau i ddianc i ddiogelwch. Pan oedd y Capten Strachaan, fel yr olaf i adael y llong, am fentro oddi ar ei bwrdd, canfod wnaeth y Cabden fod ganddo “stowaway”

Cpt. Strachan
Cpt. Strachan

Daeth y bachgen i’r lan yn ddiogel. Boddodd y Capten ac aed ag ef a chryff morwyr eraill i’r CefnamwIch Arms yn Edern ar gyfer eu hadnabod, a rhoddwyd heddwas yno i’w gwarchod rhag gwyr y wasg. Yn ôl y “DailyPost” daeth dau gorff i’r lan ym Mryn Ogo Lwyd ac un arall ger Bryn Gwydd.

Gosodwyd carreg ym mynwent Edern “er cof am 19 o forwyr foddodd trwy ddrylliad yr agerlong ‘Cyprian’ ar Benrhyn Cwmistir, 14 Hydref 1881 gan y Cyngor Plwyf yn 1942. Aed A’r capten i’w gladdu i Lerpwl.

Anrhegwyd y trigolion lleol hynny am eu hymdrechion glew yn ceisio achub aelodau criw y “Cyprian” ar greigiau Rhosgor. Cyflwynwyd sofren iddynt hefyd gan sgweiar Nanhoron mewn parti a roddodd iddynt. Gwelais gwdyn bychan a wnaed gartref i gadw’r sofren, a medal a thystysgrif gyflwynwyd i David Jones o Forfa Nefyn. Dywed Carol Hughes, mewn cyflwyniad i draethawd yn “Cymru a’r Môr” (cyfrol 4), mai ei daid ef, Seth Hughes o Benbryn Glas, Nefyn a achubodd y bachgen ac iddo yntau dderbyn yr un gwobrwyon yn union.

Mewn erthygl ar Capten William Roberts, Yr Ochor, Llanengan ym “Meistri’r Moroedd” cyfeirir at ei anturiaethau ac fel y suddodd ei long ger yr Azores. Cludwyd ef a’i griw i Lerpwl ar fwrdd yr “Highland Watch”, a deallodd nad oedd prif swyddog y llong honno yn neb llai na “stow-away” y “Cyprian”! Pan laniodd roedd yn amser Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, ac ymwelodd A hi y diwrnod y dyfarnwyd y Gadair Ddu i Hedd Wyn.

Daeth hanes antur y “Cyprian” i glustiau gwraig o Henley onThames a rhoddodd,£800 i Gymdeithas y Bad Achub. Canlyniad hyn fu prynu bad achub ai leoli yn Nhrefor a chyfeirio ato, fel Bad Achub Llanaelhaearn. Galwyd ef yn “Cyprian”, ond dim ond unwaith y lansiwyd ef.

6 Tywyn – Yn y ffermdy hwn y cynhaliodd Howell Harris seiadau – y gyntaf ohonynt yn gynnar ym mis Chwefror 1741.

Traeth Tywyn – (SH 23103755) Ym mhen deheuol y traeth mae craig yn y tywod. Dyma’r Ebol – mae ôl carn ebol i’w weld arni. Pan fyddai ôl y carn wedi’i orchuddio â thywod roedd coel yn dweud y byddai prisiau’r farchnad yn isel ond yn llawer gwell pan fyddai lefel y tywod yn isel. Arferai ffermwr o’r ardal luchio’r tywod oddi arni i sicrhau fod pethau’n codi yn eu gwerth!

Daw Cerrig Delysg i’r golwg ar drai ac arni wymon o’r enw ‘delysg’ – gwymon bwytadwy. (Lladin – Fucus palmatus.)

Porth Sglaig – Gerllaw mae Penrhyn Crydd, lle mae afon Felin (afon Cwyfan gynt) yn llifo i’r môr Gwelir olion melin o’r hen oes yma. Ar lan yr afon honno yn ymyl y môr mae Ffynnon Cwyfan. Cwyfan sefydlodd eglwys Tudweiliog. Arferid offrymu pinnau yn y ffynnon er mwyn gwella defaid ar groen ac anhwylderau eraill. Mae enwau arfordirol arbennig yma fel Llety’r Eilchion, Porth Lydan, Penrhyn Copor a Phorth Cychod.

Porth Cychod (SH 22073754) – Fel yr awgryma’r enw ym Mhorth Cychod cadwai pysgotwyr Tudweiliog a Phenllech eu cychod. Cysylltir y fan hyn a digwyddiad arbennig iawn. Un bore ym mis Mawrth 1933, cychwynnodd dau lanc ifanc allan mewn cwch i osod cewyll, ond collasant eu rhwyfau. Fe’u cariwyd allan i’r môr gan y gwynt a’r llanw a’r diwedd fu iddynt gael eu golchi i’r lan yn Kilkeel yng ngogledd Iwerddon. Gallwch ddychmygu’r holl bryderu a fu yn Nhudweiliog a’r llawenydd pan gafwyd y neges fod yr hogiau’n
ddiogel.
Tybed beth fyddai eu tynged pe bai’r gwynt wedi chwythu ychydig mwy i’r gorllewin a’u gyrru heibio gogledd Iwerddon. Ar yr allt gwelir adeilad a fu unwaith yn fan i deulu Cefnamwlch gysgodi pan ddeuent i fwynhau’r haul ac awel y môr yn ystod yr haf. Cyd-ddigwyddiad rhyfeddol ydi fod y tri brawd Tir Dyrys, Rhoshirawun a foddodd dri mis yn ddiweddarach ym Mhorth Widlin (Porth Fesyg) yn gefndryd i un o’r bechgyn.

Porth Cychod
Porth Cychod

7 Porth Ysgaden – Un o’r porthladdoedd bychain a fu’n brysur yn gwasanaethu ardal wledig Pen Llŷn, ardal brin ei thrafnidiaeth ar dir. Deuai llongau bychain yma rhyw hanner dwsin o weithiau bob blwyddyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl David Thomas.
Yn y ganrif flaenorol deuent o Lerpwl a Chaer yn bennaf gan fewnforio nwyddau megis llestri, haearn, lledr, pyg, tar, baco, snisin, te, coffi, gwin, siwgr, orennau ac ati. Deuid â sôp wast yn falast o Iwerddon i’w chwalu ar y caeau fel gwrtaith i’r tir, ynghyd â chanhwyllau gwêr, lliain, a chasgenni gweigion i’r penwaig.

Un tro, ym mis Awst 1759, daeth pum dwsin o hetiau ffelt o Gaernarfon i Borth Ysgaden. Deuid â glo yma wrth gwrs ac mae’r ierdydd i’w gweld heddiw. Pan ddiflannodd y dreth ar y glo yn 1813 cynyddodd y mewnforio. Deuai llongau’n gyson o’r meysydd glo a pharhaodd y ‘Maggie Purvis’ a’r ‘Tryfan’ i gludo glo hyd ddechrau’r Ail Ryfel Byd i Borthdinllaen a Phorth Ysgaden.

Mewnforid hefyd galch a chodwyd odyn i’w losgi. Arferai gwragedd yr ardal ymgynnull i wau a chadw’n gynnes wrth dân yr odyn. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynnyrch fferm a allforid – nwyddau megis menyn a chaws.

Arferai’r murddun a welir ar ben yr allt fod yn gartref i saer cychod a’i deulu. Ar dywydd garw arferai’r fam grogi cannwyll yn y ffenestr i rybuddio llongau fod creigiau ysgithrog islaw.

Porth Ysgaden
Porth Ysgaden

Porth Gwylan – Traeth cysgodol yn wynebu’r gorllewin. Ar yr allt mae man a elwir yn Ogof Gigfran. Gwelir nyth cigfran yn y creigiau.

8 Porth Ychain – Mae hanes i dair ar ddeg o fuchod Tŷ Mawr Penllech fynd dros yr allt yn Ogof Fari, stori sy’n gwneud i rywun feddwl mai hyn roddodd fod i’r enw Porth Ychain. Hanes difyr arall yw’r un am y llong a gariai lwyth o rum a ddaeth i’r lan rhyw dro, gyda dim ond wats yn tician mewn caban a mochyn byw ar ei bwrdd. Beth achosodd hynny tybed?
Dywedir bod y llyfr log wedi ei gwblhau yn daclus am y diwrnod cynt. Ceir stori gyffelyb gan Ioan Mai Evans yn narlith Clwb y Bont 1990 pan gyfeiria at long yn dod i’r lan â mochyn du arni a brynwyd wedyn gan hwsmon Cefnamwlch.

9 Traeth Penllech (SH 205346) – Cyfarwyddiadau: Naill ai dilynwch y ffordd isaf gul ar hyd yr arfordir o Langwnnadl i Dudweiliog trwy hen blwyf Penllech a pharcio yn y maes parcio (ger Pont yr Afon Fawr)  ger Bryn Geinach yna cerdded ar hyd y llwybr cyhoeddus i’r traeth Neu, wrth gwrs, gallwch gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Borth Colmon tua’r dwyrain.
Mae’n draeth eang tywodlyd sy’n ymestyn o Benrhyn Melyn yn y pen gogleddol i gyrion Porth Colmon. Mae ynddo gilfachau creigiog yn dwyn enwau fel Porth Sion Dafydd, Pont Bridd a Thŷ Nain. Yng Nghreigiau Duon Berth Aur mae Ogof Huw Sion Fychan, ogof gron rhyw lathen o’r tywod. Pwy oedd Huw Sion Fychan a pham fod twll ebill yn ei llawr? Dirgelion na chawn fyth ateb iddynt, mae’n bur debyg. Ym mhen gogleddol y traeth cyn cyrraedd Fach Penrhyn (Fach Peryn) mae ogof arall o’r enw’r Popdy Du y credir i Hywel Harries fod wedi pregethu ohoni i gynulleidfa ar y traeth pan ar un o’i deithiau cynharaf i Lŷn.

Ogof Huw Sion Dafydd
Ogof Huw Sion Fychan

I’r de o aber yr Afon Fawr (neu Afon LLeuddad yn wreiddiol, yn ôl rhai) mae Penrhyn Blawd lle chwythir tywod y traeth yn  fân fel blawd hyd ei odrau a’i lethrau ar adegau.  Ychydig i fyny’r afon o dan y rhaeadr mae’r  Pwll Gerwin a’r  Pwll Diwaelod. Er ei fod yn draeth diogel i nofio ynddo boddodd J Bodvan Annwyl (Bodfan), y geiriadurwr yma ar 23 Gorffennaf 1949. Roedd yn byw yn yr ardal ac yn arfer nofio’n ddyddiol. Yn 1916, golygodd y seithfed argraffiad o Eiriadur Saesneg-Cymraeg Spurrell. Bu amryw argraffiadau pellach o’r rhain. Fe’i hapwyntiwyd yn 1921 yn Ysgrifennydd y Geiriadur Cymraeg oedd ar waith dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ar ôl ymneilltuo o’r swydd honno, ymsefydlodd yn Nant, Llangwnnadl lle cododd dŷ newydd a’i alw’n Bryn Bodfan.

10 Porth Colmon – Un o’r porthladdoedd mwyaf dymunol yn Llŷn, gyda ffordd gar yn arwain i lawr ato oddi wrth Gapel Penygraig. Mae Porth Colmon yn enghraifft nodedig o byrth arfordirol traddodiadol gogledd Llŷn. Cafnwyd glanfa yno i longau’n hwylio gyda’r glannau drwy chwythu’r creigiau ar y traeth llechog. Galwai stemars yno yn ddiweddarach gan gludo nwyddau a theithwyr yn ôl ac ymlaen i Gaernarfon a Lerpwl. Gallwch ganfod dolennau haearn ar gyfer rhwymo’r hen longau yng nghreigiau’r lanfa o hyd ac mae olion iard lö ac odyn yn y borth.

Porth Colmon
Porth Colmon

Ar fwrdd treftadaeth ger giât y llwybr, mae disgrifiad da o’r winsh arbennig a adeiladwyd yno ar gyfer dadlwytho llongau. Yn y pumdegau bu bron i ni golli’r Borth am byth. Ond diolch i frwydro ystyfnig y brodorion lleol, gorchfygwyd y Sais trahaus oedd am rwystro pawb rhag cael mynd  i lawr i’r Borth Mwy…

Porth Colmon
Porth Colmon

Daliwyd pedwar yma un tro am brynu halen a hwnnw wedi ei smyglo. Fe’u herlidiwyd ac am na allent dalu dirwyon o gannoedd o bunnoedd fe’u lluchiwyd i garchar Caernarfon. Gwnaed apêl ar iddynt gael eu rhyddhau gan fod eu teuluoedd yn hynod o dlawd. Gwrthodwyd yr apêl ac felly apeliwyd eto ymhen blwyddyn. Aeth Swyddog Tollty Caernarfon i’w gweld ond dim ond tri oedd yno bellach. Roedd un ohonynt, William Williams, wedi teneuo gymaint nes iddo allu dianc rhwng bariau’r ffenestri. Llwyddodd i gyrraedd ei gartref, Cae’r Efail yn ardal Hebron, a chuddiodd ei fam ef yn y fuddai. Pan aeth y perygl heibio hwyliodd i Lerpwl, gan wisgo dillad merch, ac ymfudodd i ddiogelwch America.

Mewnforid glo, calch a llwch esgyrn i Borth Golmon – mae odyn gerllaw – a rhaid felly oedd cael peilot i ddod â’r llongau i mewn yn ddiogel. Wil Llainfatw wnâi’r gwaith hwnnw. Mwy….

11 Porth Tŷ Mawr / Y Stuart – 1901 – Ym Mhorth Tŷ Mawr, yr aeth y “Stuart” i helbulon; mae’r hanes hwn hefyd wedi ei groniclo yng nghyfres deledu “Almanac”. Yr hyn sy’n tynnu’r holl sylw at y llongddrylliad hwn yw mai wisgi oedd cyfran go dda o’r cargo. Canlyniad hyn fu rhoi enw newydd i’r fan, sef Porth Wisgi. Mae’n debyg y bu cryn ysbeilio yma, a’r pictiwr a gawn yw fod pawb, o’r byd a’r betws, am y gorau unai yn casglu’r poteli neu yn yfed cymaint ag oedd modd.

Y stuart -Porth Tŷ Mawr

Y stuart -Porth Tŷ Mawr

‘Does dim amheuaeth na fu 1901 yn dipyn o flwyddyn yn y fro a mynegwyd cryn bryder yng Nghyfarfod Ysgol Dosbarth Pen LIŷn. Gosodwyd y testun “Ysgrif fer ar gychwyniad, a drylliad y llong ‘Stuart’ ar greigiau Porth Ty Mawr, Llŷn” yng Nghymldeithas Lenyddol Pen y Graig yn 1925 a gwelir y pryder am safonau moesol y trigolion yn parhau chwarter canrif yn ddiweddarach. Disgrifia’r buddugol, J. 0. Roberts, Tŷ Mawr Penllech mewn sobrwydd y sefylllfa a dyfynnaf ef heb ddiweddaru’r orgraff,
Yr oedd “staen” y gwaed ar y wefus, yn profi nad oedd gan ambell un ddim at dynnu corcyn or botel, felly nid oedd dim iw wneud ond taro ei gwddf yn y graig, ac arllwys yr hylif poeth ir cylla heb gofio am y gwydr miniog! mewn lle ychydig or neulltu yr oedd “cask”, ac wedi taro ei dalcen i mewn, canfuwyd yn ebrwydd pa beth oedd ei gynwysiad- “wisgi” “angen yw mam dyfais”- medd hen air, – wele un yn tynu ei esgid ac yn ei yfed o hono fel or “glass” gore allan un arall gyda’i flwch myglus, etc. pawb yn hwyluso y gwaith o’i wagio. Gerllaw yr oedd ffrwd fechan loyw-ber fel grisial, yn sisial rhwng y cerrig; ac yn llifo dros y bistylloedd bychain dros y creigiau i lawr tua’r môr, a’i llwybr mor laned a’r awyr ond yr oedd yn well gan ddyn serio ei gylla, pylu ei ymenydd, haearneiddio ei gydwybod, a hyrddio ei enaid i ddinistr bythol guda hylif y “cask”, yn hytrach na manteisio ar ddiod Duw, – dwr. 0 ynfydrwydd – a pha hyd?

Bu’r baledwyr yn brysur hefyd, a phan osodwyd y digwyddiad hwn yn destun yn Eisteddfod y Rhos yn 1902, John Owen, Brychdir ddaeth yn fuddugol.

Ceir peth o hanes y “Stuart” yn “BIas Hir Hel” a hefyd fe’i crybwyllir yn “Pigau’r Sêr”. Yn ôl darlith Robin Gwyndaf ymwelodd Serah Trenholme, â’r fan a gwelodd yr ysbeilio. Cefais ei hanes yn fanwl gan fy ewythr. Evan John Griffith, gan fod nodiadau Hugh W. Jones, Bryn Villa ganddo. Roedd Hugh Jones Bryn yn llygad-dyst i’r cyfan ac yn gofnodwr manwl.
Cychwyn wnaeth hi o Lerpwl i Seland Newydd ar Wener y Groglith 1901 gyda chriw o 19 a’i swyddogion ifanc. Mae’n rhaid mai diffyg profiad oedd yn fwyaf cyfrifol am y “ddamwain” gan nad oedd y tywydd yn ddrwg, niwi a glaw mân yn ôl y sôn, a dim byd gwaeth. Credid y byddai modd ei hwylio eilwaith ar ôl iddi ddod i’r lan, ond ymhen ychydig ddyddiau cododd gwynt o’r môr a thorri ei mastiau a’r rheini yn eu tro yn disgyn ar y llong a’i hagor. Canlyniad hyn fu gwasgaru’r cargo oedd yn cynnwys llestri, wisgi, stowt, canhwyllau, matsus, pianos, gorchuddiau lloriau ac yn y blaen. Mae’r llestri i’w gweld hyd dreselydd yr ardal heddiw ac mae rhai poteli or wisgi yn dal heb eu hagor.
Mae un o diwbiau’r “Stuart” i’w weld yn glir yn y creigiau melynion heddiw, a daw peth ohoni i’r golwg ar dreiau mawr.
Un o’r ffactorau oedd yn gyfrifol am y trafferthion yr aeth y “Stuart” iddynt oedd i’w chel fynd ar draws llong arall oedd yn gorwedd o dan y dwr. Y “Sorrento” Mwy…

diolch i Elfed Gruffydd am dyffyniadau o ‘Ar hyd ben ‘rallt’

ffynonellau llyfryddiaeth

Cyfarwyddiadau

Wedi gadael cyffiniau Nefyn, fe ewch o amgylch tre fach Morfa Nefyn cyn anelu at un o drysorau’r daith sef penrhyn creigiog Porth Dinllaen. Yma cewch edmygu’r golygfeydd i’r dwyrain a’r gorllewin ar hyd arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. O olion y gaer, fe welwch fod trigolion yr Oes Haearn wedi manteisio ar y llecyn hynod hwn. Edrychwch allan am forloi chwilfrydig yn dod at y lan i sbecian ar unrhyw brysurdeb.

Mae’r llwybr wedyn yn ymdroelli’n hamddenol ar hyd yr arfordir. Dyma wlad y ‘porthydd’ gyda phob un ohonynt gyda’i naws unigryw ei hun. Diolch i galedwch y graig, a bobwyd gan lafa chwilboeth, mae’r ardal hon wedi galluogi trigolion Llŷn i ddibynnu ar gyfuniad o gynnyrch môr a thir i’w cynnal. Fel cilfachau bach tywodlyd mae’r ‘porthydd’ megis Porth Ysgaden a Phorth Colmon yn ddelfrydol i lansio a
glanio cychod ac er mai crancod a chimychiaid yw’r prif ysbail heddiw ar un amser dibynnai rhan helaeth y boblogaeth ar lanio penwaig.

Cylchdeithiau eraill ar y map yma

A-Nefyn , B- Edern , C-Tudweiliog , D-Llangwnnadl , E_Garn_Boduan

Yn ôl i dudalen Llwybrau Llinynnol Llŷn

Map Llwybr Arfordir Cymru sydd yn cynnwys yr ardal yma – Trefor -Aberdaron


Gwyliwch Aled Hughes (BBC radio Cymru) yn cerdded y daith yma.- Nefyn – Porth Colmon

Nefyn – Morfa Nefyn
Morfa Nefyn – Porth Colmon